Ffioedd Dysgu

Mae ffioedd dysgu’n talu am gostau eich astudiaethau yn y brifysgol; mae’r ffioedd yn cynnwys taliadau am bethau fel y dysgu, eich arholiadau a graddio.
Mae benthyciadau a grantiau ar gael i’ch helpu i dalu eich ffioedd dysgu a’ch costau byw. Os hoffech gael gwybod mwy am y benthyciadau a’r grantiau y gallai fod gennych hawl iddynt, ewch i’n hadran Benthyciadau i Fyfyrwyr.
Ffioedd Dysgu ar gyfer mis Medi 2022
Gwybodaeth ffioedd i fyfyrwyr y DU
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau'r ffioedd dysgu eto ar gyfer myfyrwyr cartref newydd sy'n cychwyn ym mis Medi 2022. Codwyd £9,000 ar fyfyrwyr newydd oedd yn cychwyn ar eu cwrs ym mis Medi 2021.
Ffioedd Israddedigion o’r Deyrnas Unedig (Ffioedd Israddedigion o'r Deyrnas Unedig - yn gymwys i ymgeiswyr sy'n byw yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel.) |
£ |
Sesiwn Llawn |
9,000 |
Un Semester |
4,500 |
Cyfnewid Allan (Sesiwn Llawn) |
1,350 |
Blwyddyn mewn Diwydiant |
1,800 |
Blwyddyn Dramor |
1,350 |
Ymweld â ni (Sesiwn Llawn) |
9,000 |
Ymweld â ni (Un Semester) |
4,500 |
Gwybodaeth ffioedd i fyfyrwyr rhyngwladol (yn cynnwys UE)
Nodwch y bydd dinasyddion Iwerddon yn gymwys ar gyfer statws y DU ynghyd â chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru o dan drefniant y Man Teithio Cyffredin.
Nid yw Llywodraeth Cymru eto wedi cadarnhau’r trefniadau ar gyfer 2021-22 ymlaen, sy’n golygu y gall ffioedd dysgu godi ar gyfer unrhyw flynyddoedd astudio olynol, wedi’u mapio yn unol ag unrhyw uchafswm ffioedd dysgu sy’n gysylltiedig â chwyddiant a ganiateir gan Lywodraeth Cymru. Byddai’r cynnydd hwn hefyd yn berthnasol i ffioedd cyfrannol a godir ar gyfer Blwyddyn Dramor a’r Flwyddyn mewn Diwydiant.
Byddwn yn hysbysu pob ymgeisydd a phob myfyriwr am lefelau’r ffioedd ar gyfer 2021-22 yn ogystal â rhoi gwybod am unrhyw gynnydd sy’n gysylltiedig â chwyddiant ar gyfer blynyddoedd astudio dilynol cyn gynted ag y ceir cadarnhad gan Lywodraeth Cymru, a byddwn yn cyhoeddi diweddariadau [ar y dudalen hon]. Dylech edrych ar y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ar y dudalen hon cyn gwneud cais. Bydd y manylion diweddaraf am ffioedd perthnasol yn cael eu nodi yn y dogfennau gyda’n cynnig, a bydd eich telerau ac amodau yn disgrifio sut y gallwn fod â hawl i gynyddu neu newid ffioedd yn ystod cyfnod eich astudiaeth gyda ni.
Ar gyfer myfyrwyr israddedig rhyngwladol, mae lefelau’r ffioedd yn cael eu rhewi ar lefel mynediad ar gyfer y blynyddoedd astudio dilynol. Mae hyn yn golygu eich bod yn gwybod beth yn union fydd lefelau eich ffioedd drwy gydol eich astudiaethau gyda Phrifysgol Aberystwyth.
Mae sefyllfa’r ffioedd yn wahanol i fyfyrwyr tramor.
Myfyrwyr Rhyngwladol |
|
Math |
Swm (£) |
Y Celfyddydau / y Gwyddorau Cymdeithasol - Llawn Amser |
14,300 |
Gwyddoniaeth Llawn Amser |
16,300 |
Blwyddyn mewn Diwydiant |
1,800 |
Blwyddyn Dramor
|
1,350 |
Gwybodaeth ffioedd cyrsiau dysgu o bell
Noder bod yr holl ffioedd yn amodol ar gynnydd blynyddol o 1 Awst. Mae'r ffioedd isod yn ddilys ar gyfer myfyrwyr sy'n dechrau eu hastudiaethau ym mis Medi 2022 (blwyddyn academaidd 2022-23). Mae'r ffigurau ar gyfer Blwyddyn 2 a Blwyddyn 3 isod felly yn enghreifftiol ac fe allant newid.
Ffioedd Dysgu o Bell ar gyfer yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth - Astudiaethau Israddedig |
Cost: |
---|---|
Ffi Cofrestru |
£350 |
Ffi fesul modiwl 10 credyd |
£340 |
Ffi fesul modiwl 20 credyd |
£680 |
Ffi fesul blwyddyn academaidd |
£2,720 |
Cyfanswm |
£8,510 |
Ffioedd Dysgu ar gyfer mis Medi 2023
Gwybodaeth ffioedd i fyfyrwyr rhyngwladol (yn cynnwys UE)
Nodwch y bydd dinasyddion Iwerddon yn gymwys ar gyfer statws y DU ynghyd â chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru o dan drefniant y Man Teithio Cyffredin.
Nid yw Llywodraeth Cymru eto wedi cadarnhau’r trefniadau ar gyfer 2021-22 ymlaen, sy’n golygu y gall ffioedd dysgu godi ar gyfer unrhyw flynyddoedd astudio olynol, wedi’u mapio yn unol ag unrhyw uchafswm ffioedd dysgu sy’n gysylltiedig â chwyddiant a ganiateir gan Lywodraeth Cymru. Byddai’r cynnydd hwn hefyd yn berthnasol i ffioedd cyfrannol a godir ar gyfer Blwyddyn Dramor a’r Flwyddyn mewn Diwydiant.
Byddwn yn hysbysu pob ymgeisydd a phob myfyriwr am lefelau’r ffioedd ar gyfer 2021-22 yn ogystal â rhoi gwybod am unrhyw gynnydd sy’n gysylltiedig â chwyddiant ar gyfer blynyddoedd astudio dilynol cyn gynted ag y ceir cadarnhad gan Lywodraeth Cymru, a byddwn yn cyhoeddi diweddariadau [ar y dudalen hon]. Dylech edrych ar y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ar y dudalen hon cyn gwneud cais. Bydd y manylion diweddaraf am ffioedd perthnasol yn cael eu nodi yn y dogfennau gyda’n cynnig, a bydd eich telerau ac amodau yn disgrifio sut y gallwn fod â hawl i gynyddu neu newid ffioedd yn ystod cyfnod eich astudiaeth gyda ni.
Ar gyfer myfyrwyr israddedig rhyngwladol, mae lefelau’r ffioedd yn cael eu rhewi ar lefel mynediad ar gyfer y blynyddoedd astudio dilynol. Mae hyn yn golygu eich bod yn gwybod beth yn union fydd lefelau eich ffioedd drwy gydol eich astudiaethau gyda Phrifysgol Aberystwyth.
Mae sefyllfa’r ffioedd yn wahanol i fyfyrwyr tramor.
Myfyrwyr Rhyngwladol |
|
Math |
Swm (£) |
Y Celfyddydau / y Gwyddorau Cymdeithasol - Llawn Amser |
15,375 |
Gwyddoniaeth Llawn Amser |
17,525 |
Blwyddyn mewn Diwydiant |
1,800 |
Blwyddyn Dramor |
1,350 |
Gwybodaeth ffioedd cyrsiau dysgu o bell
Noder bod yr holl ffioedd yn amodol ar gynnydd blynyddol o 1 Awst. Mae'r ffioedd isod yn ddilys ar gyfer myfyrwyr sy'n dechrau eu hastudiaethau ym mis Medi 2023 (blwyddyn academaidd 2023-24). Mae'r ffigurau ar gyfer Blwyddyn 2 a Blwyddyn 3 isod felly yn enghreifftiol ac fe allant newid.
Ffioedd Dysgu o Bell ar gyfer yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth - Astudiaethau Israddedig |
Cost: |
---|---|
Ffi Cofrestru |
£360 |
Ffi fesul modiwl 10 credyd (24 x £360) |
£8,640 |
Cyfanswm |
£9,000 |