Cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr israddedig llawn-amser o Gymru
Costau Ffioedd Dysgu
Yn 2025/26, bydd Prifysgol Aberystwyth yn codi ffi o £9,535 y flwyddyn am bob cwrs gradd israddedig llawn-amser. Nid oes raid i chi dalu unrhyw ffioedd dysgu tra ydych yn astudio (er y gallwch wneud hynny os dymunwch). Caiff y taliad ei ohirio nes ar ôl i chi raddio trwy Fenthyciad Ffioedd Dysgu.
Nid yw’r Benthyciad Ffioedd Dysgu yn ddibynnol ar incwm y teulu. Fodd bynnag, dylai myfyrwyr sydd wedi astudio ar lefel Addysg Uwch yn y gorffennol gysylltu â Cyllid Myfyrwyr Cymru i wirio eu hawl.
Mae Benthyciadau Ffioedd Dysgu yn ad-daladwy ar ôl i chi adael y brifysgol a dechrau ennill dros £28,470 y flwyddyn (Ebrill 2021 ymlaen). Mae'r gyfradd llog yn gysylltiedig â chwyddiant (Mynegai Prisiau Manwerthu). Am ragor o wybodaeth am ad-dalu'ch benthyciad, ewch i'r wefan ganlynol: www.studentloanrepayment.co.uk. Fel arall, gallwch dalu eich ffioedd wrth astudio.
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru
- Bydd pob myfyriwr israddedig llawn amser cymwys sy’n byw yng Nghymru yn derbyn Grant Dysgu Llywodraeth Cymru gwerth £1,000 gan Lywodraeth Cymru.
- Gall myfyrwyr o Gymru hefyd wneud cais am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ychwanegol. Bydd y grant ychwanegol yn cael ei asesu ar incwm trethadwy cartref y myfyriwr.
- Caiff y grant yma eu talu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc mewn tri rhandaliad - un ar ddechrau pob tymor
- Nid fydd raid i chi dalu’r Grant Dysgu Llywodraeth Cymru yn nol ar ôl graddio.
Benthyciad/Grant Cynhaliaeth
- Mae Benthyciad Cynhaliaeth ar gael i’ch helpu gyda chostau byw fel llety, bwyd, llyfrau, dillad a theithio. Daw’r arian yma gan Lywodraeth Cymru drwy’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.
- Bydd incwm trethadwy eich cartref a lle byddwch chi'n byw wrth astudio yn penderfynu faint o fenthyciad byddwch yn ei dderbyn.
- Caiff benthyciadau eu talu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc mewn tri rhandaliad - un ar ddechrau pob tymor.
- Mae’n rhaid i fenthyciad cynhaliaeth gael ei ad-dalu unwaith y byddwch wedi gorffen eich cwrs ac yn ennill mwy na £28,470 y flwyddyn (Ebrill 2021 ymlaen). Fel rheol bydd eich cyflogwr yn tynnu’r arian o’ch cyflog trwy’r system dreth PAYE, yn yr un ffordd a threth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol. Byddwch yn ad-dalu ar gyfradd o 9% o unrhyw swm a enillwch dros £28,470 y flwyddyn (Ebrill 2021 ymlaen). Am ragor o wybodaeth am ad-dalu'ch benthyciad, ewch i'r wefan ganlynol: studentloanrepayment.co.uk
Mae'r tablau isod yn rhoi dadansoddiad o'r Taliadau Cynhaliaeth ar gyfer 25/26 yn seiliedig ar incwm yr aelwyd, p'un a ydynt yn byw gartref neu i ffwrdd.
Byw gartref
Incwm cartref |
Grant |
Bencythiad |
Cyfanswm |
£18,370 neu lai |
£6,885 |
£3,595 |
£10,480 |
£25,000 |
£5,930 |
£4,550 |
£10,480 |
£35,000 |
£4,488 |
£5,992 |
£10,480 |
£45,000 |
£3,047 |
£7,433 |
£10,480 |
£59,200 neu fwy |
£1,000 |
£9,480 |
£10,480 |
Byw i ffwrdd o gartref (Y tu allan i Lundain)
Incwm cartref |
Grant |
Bencythiad |
Cyfanswm |
£18,370 neu lai |
£8,100 |
£4,245 |
£12,345 |
£25,000 |
£6,947 |
£5,398 |
£12,345 |
£35,000 |
£5,208 |
£7,137 |
£12,345 |
£45,000 |
£3,469 |
£8,876 |
£12,345 |
£59,200 neu fwy |
£1,000 |
£11,345 |
£12,345 |
Cyllid ar gyfer Blynyddoedd Lleoliad Gwaith
Ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2025/26, y ffi dysgu ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth sy'n ymgymryd â blwyddyn integredig mewn diwydiant yw:
Lleoliad rhyng-gwrs |
£1,905 |
Blwyddyn Dramor |
£1,430 |
Gall myfyrwyr amser llawn cymwys ar leoliadau rhyng-gwrs cyflogedig blwyddyn lawn lle mae'r cyfnodau o astudio amser llawn yn llai na 10 wythnos yn gyfanredol wneud cais am fenthyciad cynnal a chadw gostyngedig yn unig.
Y gyfradd is yw hanner y gyfradd benthyciad cynnal a chadw lawn wedi'i dalgrynnu i lawr i'r £5 cyfan agosaf.
Mae gan fyfyrwyr sy'n byw gartref hawl i fenthyciad cynhaliaeth ar gyfradd is o £4,740, pan fo cyfradd lawn y benthyciad cynhaliaeth yn £9,480.
Mae gan fyfyrwyr sy'n byw i ffwrdd o gartref, y tu allan i Lundain, hawl i fenthyciad cynhaliaeth ar gyfradd is o £5,670, pan fo cyfradd lawn y benthyciad cynhaliaeth yn £11,345. Fel yn achos Cyllid Myfyrwyr Lloegr, gallai myfyrwyr yng Nghymru sy'n ymgymryd â rhai lleoliadau di-dâl fod yn gymwys i gael cyllid llawn, ar yr amod bod y lleoliad yn bodloni un o’r canlynol:
- Gwasanaeth di-dâl mewn ysbyty neu mewn labordy gwasanaeth iechyd cyhoeddus neu gyda grŵp comisiynu clinigol yn y DU
- Gwasanaeth di-dâl gydag awdurdod lleol yn y DU sy'n gweithredu wrth arfer swyddogaethau yn ymwneud â gofalu am blant a phobl ifanc, iechyd neu les, neu gyda sefydliad gwirfoddol sy'n darparu cyfleusterau neu'n cynnal gweithgareddau o'r un natur yn y DU
- Gwasanaeth di-dâl gydag awdurdod lleol sy'n gweithredu wrth arfer swyddogaethau iechyd cyhoeddus yn y DU
- Gwasanaeth di-dâl yn y carchar neu'r gwasanaeth prawf ac ôl-ofal yn y DU
- Ymchwil di-dâl mewn sefydliad yn y DU neu, yn achos myfyriwr sy'n mynychu sefydliad tramor yn rhan o'u cwrs, mewn sefydliad tramor
- Gwasanaeth di-dâl gydag Awdurdod Iechyd Arbennig, Bwrdd Comisiynu'r GIG, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ofal a Rhagoriaeth, Canolfan Wybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Bwrdd Iechyd Lleol, Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig yn yr Alban, neu Fwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon.
- Gwasanaeth di-dâl yn Senedd y DU
Pryd a sut i wneud cais am Gyllid Myfyrwyr
- Mae bosib gwneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu, Benthyciad Cynhaliaeth a’r Grant Dysgu Llywodraeth Cymru trwy gwblhau un ffurflen cais - PN1.
- Mae bosib i fyfyrwyr wneud cais ar y we neu drwy lawr lwytho ffurflen oddi ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru : cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
- Mi fydd y ffurflenni ar gael o fis Mawrth 2025 ymlaen.
- Fe’ch cynghorir i lenwi'r ffurflen cyn gynted â phosib fel bod yr asesiad ariannol wedi ei gwblhau ymhell cyn i'ch cwrs ddechrau ym mis Medi 2025.
Sut y byddwch yn derbyn eich cyllid myfyrwyr?
Mae’r grantiau a benthyciad cynhaliaeth yn cael ei talu i mewn i'ch cyfrif banc mewn tri rhandaliad. Y taliad cyntaf ar ôl cofrestru yn y Brifysgol, yr ail ran daliad ddechrau mis Ionawr ar rhandaliad olaf ar ôl Pasg.
Astudiaethau Addysgu Uwch blaenorol
Os ydych wedi astudio cwrs addysg uwch o'r blaen, gallai hyn effeithio ar eich hawl i gael cyllid myfyrwyr. Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â Chyllid Myfyrwyr Cymru: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk neu'r Gwasanaeth Cyngor, Gwybodaeth ac Arian ym Mhrifysgol Aberystwyth am ragor o wybodaeth a chyngor cyn gynted ag y byddwch yn penderfynu gwneud cais i brifysgol.
Myfyrwyr gyda phlant neu oedolion dibynnol
Mae Grant Cymorth Arbennig wedi ei gyflwyno ar gyfer myfyrwyr a all fod yn gymwys i dderbyn budd-daliadau phrawf modd megis Cymhorthdal Incwm / Credyd Cyffredinola a Budd-dal Tai. Bwriad y grant hwn yw helpu gyda chostau ychwanegol megis llyfrau, offer cwrs, a theithio. Mae ar gael i fyfyrwyr sy’n:
- Rhieni sengl
- Cyplau gyda phlant ble mae’r ddau yn fyfyrwyr llawn amser
- a rhai myfyrwyr anabl.
Mae'r Grant Cymorth Arbennig yn cael ei dalu yn lle Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (WGLG). Mae'r swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref a ble rydych chi'n byw ac yn astudio. Dyma grynodeb o'r cymorth sydd ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2025-2026:
Byw i ffwrdd o gartref rhieni ac astudio y tu allan i Lundain
Incwm Cartref |
Benthyciadau |
Grant |
Cyfanswm |
£18,370 nai lai |
£5,670 |
£8,100 |
£13,770 |
£25,000 |
£5,670 |
£6,947 |
£12,617 |
£35,000 |
£7,137 |
£5,208 |
£12,345 |
£45,000 |
£8,876 |
£3,469 |
£12,345 |
£59,200 neu fwy |
£11,345 |
£1,000 |
£12,345 |
Grant Gofal Plant
Gallwch wneud cais am Grant Gofal Plant i helpu i dalu costau eich gofal plant os ydych chi'n fyfyriwr israddedig sydd â phlant.
Beth sydd ar gael?
Bydd faint rydych chi'n ei gael yn dibynnu ar incwm eich cartref, faint o blant dibynnol sydd gennych a beth yw eich costau gofal plant.
Bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw gostau gofal plant sy'n weddill eich hun. Os ydych chi'n fyfyriwr rhan-amser, byddwch yn cael eich asesu am gyfanswm is o grant gofal plant yn seiliedig ar ddwysedd eich astudiaethau.
Nid oes angen talu'ch grant yn ôl.
Blwyddyn academaidd 2025/26
Gallech gael 85% o'ch costau gofal plant hyd at uchafswm o:
- £192 yr wythnos ar gyfer 1 plentyn dibynnol
- £329 yr wythnos ar gyfer 2 neu fwy o blant dibynnol
Os nad oes gennych ddarparwr gofal plant ar yr adeg y byddwch yn gwneud cais, gallwch gael grant gofal plant o hyd, ond bydd hyn yn cael ei gapio ar £147 yr wythnos neu 85% o'r costau gwirioneddol, pa un bynnag sy'n is. Pan fyddwch chi’n darparu manylion darparwr gofal plant, byddwn yn ailgyfrifo eich cyllid ar gyfer y swm uwch.
Ydw i’n gymmwys?
Gallwch wneud cais am y grant gofal plant:
- os oes gennych o leiaf un plentyn o dan 15 oed sy'n dibynnu arnoch yn ariannol, neu o dan 17 oed os oes ganddynt anghenion addysgol arbennig
- os ydych yn defnyddio darparwr gofal plant sydd wedi'i gofrestru gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGGC)
- os ydych yn mynychu cwrs amser llawn neu ran-amser (gan gynnwys cwrs dysgu o bell) ac yn cael cyllid myfyrwyr israddedig sy'n dibynnu ar incwm eich cartref.
Ni allwch wneud cais:
- os ydych yn hawlio'r elfen gofal plant o’r Credyd Cynhwysol neu’r Credyd Treth Gwaith
- os ydych yn cael gofal plant di-dreth gan Gyllid a Thollau EF
- os ydych yn talu i berthynas ofalu am eich plentyn yn unig
- os ydych chi neu eich partner yn derbyn cyllid gan y GIG.
Os ydych chi'n rhiant i blentyn rhwng 3 a 4 oed, efallai y byddwch yn gymwys i gael rhagor o gymorth gofal plant gan Lywodraeth Cymru o dan y Cynnig Gofal Plant sydd wedi'i ehangu'n ddiweddar i gynnwys myfyrwyr sy'n rhieni.
Lwfans Dysgu i Rieni
Dyfernir y lwfans hwn nad oes angen ei ad-dalu i helpu myfyrwyr â phlant dibynnol.
- Uchafswm y Lwfans Dysgu i Rieni sy'n daladwy yn 2025/26 fydd £1,945 a'r isafswm fydd £53.00.
- Mae faint a gewch yn dibynnu ar incwm trethadwy eich cartref.
- Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r Adran Budd-dal yn diystyru'r swm a ddyfarnwyd i chi pan fyddant yn cyfrifo eich hawl am fudd-dal.
- Mae'r grant hwn fel arfer yn cael ei dalu mewn tri rhandaliad, un ar ddechrau pob tymor ar yr un pryd â'ch benthyciad cynhaliaeth a grantiau eraill.
Grant Oedolion Dibynnol
Mae Grant yma ar gael i fyfyrwyr sydd â dibynyddion sy'n oedolion. Os oes gennych bartner, sy'n dibynnu arnoch yn ariannol, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am y grant hwn nad oes rhaid ei ad-dalu.
- Uchafswm y Lwfans Dysgu Rhieni sy'n daladwy yn 2025/26 fydd £3,407.
- Bydd faint o gymorth a dderbyniwch yn dibynnu ar incwm eich dibynyddion.
- Bydd y grant hwn yn cael ei drin fel incwm gan unedau budd-dal Tai neu Dreth Gyngor neu Fudd-dal Lles eraill.
- Ni fydd y Ganolfan Byd Gwaith nac adrannau Budd-dal Tai yn cyfrif y grant hwn wrth gyfrifo eich hawl i gael budd-daliadau
Gwefannau Defnyddiol
- Cyllid Myfyrwyr Cymru www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
- Gwasanaeth Cyngor, Gwybodaeth ac Arian: https://www.aber.ac.uk/cy/sscs/advice-info-money/
- Budd-Daliadau Lles: https://www.gov.uk/cymraeg