Prifysgol Aberystwyth yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2025

Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr i'n stondin yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, rhwng 2il a 9fed o Awst 2025.

Rhaglen Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam

Gweithgareddau yn ystod yr wythnos:

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff 
Tîm Nyrsio
Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Adran Mathamateg 
Adran Y Gyfraith a Throseddeg 
Yr Ysgol Addysg 
Adran Seicoleg 
Adran Ffiseg  

A llawer mwy…..

A oes gennych atgofion, straeon, neu luniau am dywydd eisteddfodol ddoe a heddiw? Dewch i'r stondin i weld sut allwch chi gyfrannu at brosiect 'Tywydd Eisteddfodol'.

Arddangosfa ‘Pop Aber’
Dewch i weld arddangosfa ‘Pop Aber’ sy’n dathlu’r cyfraniad gwerthfawr i ddiwylliant Cymraeg a wnaed gan rai o’r artistiaid a bandiau Cymraeg a fu’n fyfyrwyr yn y Brifysgol. Mae’r arddangosfa’n cynnwys lluniau ynghyd â chasgliad o bosteri ar gyfer gigiau UMCA dros y blynyddoedd.