Diwrnod Agored yn Aberystwyth

Beth i'w ddisgwyl ar Ddiwrnod Agored

Mae ein Diwrnod Agored yn cael ei gynnal rhwng 9am a 4pm, gyda gweithgareddau’n digwydd ar draws y campws ym mhrif adeiladau’r Brifysgol er mwyn rhoi blas i chi o fywyd ar y campws.

Cewch gyfle i ddysgu mwy am eich pynciau o ddiddordeb, sgwrsio â staff academaidd a myfyrwyr presennol, ymweld â’n llety a’n cyfleusterau, a chael cyngor ar y broses ymgeisio, cymorth i fyfyrwyr, ffioedd, ysgoloriaethau a mwy.

Cofrestrwch ar ein diwrnod agored nesaf.

Pum rheswm i ymweld â ni ar Ddiwrnod Agored

1. Dechreuwch eich diwrnod gyda chroeso a chwrdd â’n staff
Dechreuwch eich ymweliad wrth gofrestru yng Nghanolfan y Celfyddydau. Ewch i’r sgwrs groeso lle cewch drosolwg o’r Brifysgol a mwy o wybodaeth am y diwrnod. Yna, gallwch ymweld â’n ffair wybodaeth yn y brif lyfrgell, sydd ar agor drwy’r dydd, i siarad â staff o’r swyddfa derbyniadau, cymorth i fyfyrwyr, cyfleoedd rhyngwladol, a ffioedd a chyllid. Dyma’ch cyfle i ofyn cwestiynau a chael yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud y penderfyniad cywir.

2. Dysgwch mwy am eich pwnc a chwrdd â’n darlithwyr
Gallwch ymweld â’r adrannau sydd o ddiddordeb i chi a dysgu fwy am ein cyrsiau. Cewch gwrdd â’r darlithwyr a fydd yn eich dysgu, darganfod beth fyddwch yn ei astudio a chael blas ar yr ardaloedd academaidd. Dyma’ch cyfle i weld ym mhle byddwch yn dysgu ac i ofyn cwestiynau manwl am eich pwnc.

3. Ewch ar daith o amgylch y campws a’r cyfleusterau
Ymunwch â thaith dan arweiniad llysgennad i weld y campws a gweld ble byddwch yn astudio o ddydd i ddydd. Cewch ymweld â chyfleusterau allweddol gan gynnwys ein Canolfan Chwaraeon, y llyfrgell ac Undeb y Myfyrwyr, a chael syniad go iawn o sut beth yw byw a dysgu yma yn Aberystwyth.

4. Cymharwch ein llety
Cymerwch olwg o amgylch ein dewisiadau llety i weld ble gallech fyw. Bydd gweld yr opsiynau â’ch llygaid eich hun yn eich helpu i gymharu gwahanol ystafelloedd a lleoliadau, fel y gallwch benderfynu beth sydd orau i chi.

5. Cael blas ar fywyd myfyrwyr a’n lleoliad
Siaradwch â’n llysgenhadon i glywed yn uniongyrchol sut beth yw bywyd yn Aberystwyth. Archwiliwch y dref a’r ardal gyfagos i weld pam mae cymaint o’n myfyrwyr yn mwynhau byw yma, gyda’r arfordir, cefn gwlad a chymuned groesawgar ar garreg eich drws.