Ysgoloriaeth Emily Price

Ysgoloriaeth Emily Price; Adeilad y Gwyddorau Ffisegol

Sefydlwyd hon gan deulu a chyfeillion un o’n cyn-fyfyrwyr, Emily Price.

I helpu ymgeiswyr benywaidd i ddilyn cyrsiau Mathemateg neu Ffiseg yn Aberystwyth.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos addewid academaidd ac angerdd dros ddenu mwy o fenywod i faes mathemateg a/neu ffiseg.

Sut mae gwneud cais?

Mae ceisiadau ar gyfer mynediad 2026 bellach wedi cau.

Llenwch y Ffurflen Gais

Telerau ac Amodau

Sut fyddaf i’n cael fy nhalu?

Pan ddyfernir ysgoloriaeth, gwneir taliadau trwy Aspire Aber. Bydd myfyrwyr yn cael e-bost oddi wrth Aspire Aber yn eu hysbysu bod yr arian ar gael, ynghyd â chyfarwyddyd ynghylch sut i dynnu’r arian allan.