Bwrsariaeth Gwyneth Evans - £500
£500 y flwyddyn
Gwnaed yn bosibl trwy rodd hael i'r Brifysgol gan y diweddar Gwyneth Evans.
Cymhwyster
Yn agored i israddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn unrhyw bwnc sydd:
- Wedi eu geni yng Ngheredigion neu wedi byw yng Ngheredigion am y 3 blynedd cyn gwneud cais
- A bod gennych incwm aelwyd trethadwy o £40,000 neu lai cyn dechrau yn y brifysgol.
Tystiolaeth Ategol
Er mwyn asesu eich cais, rhowch yr wybodaeth ganlynol:
- Copi o'ch pasbort, trwydded yrru, tystysgrif geni;
neu dystiolaeth o gyfeiriad yng Ngheredigion am y 3 blynedd diwethaf - Copïau o P60 ar gyfer y rhai yn eich cartref sy'n cael eu cyflogi o dan y system TWE ar gyfer blwyddyn dreth 2023 (Ebrill 2023-Ebrill 2024)
- Copïau o ffurflenni treth Hunanasesiad (Ebrill 2023-Ebrill 2024) ar gyfer y rhai yn eich cartref sydd wedi'u cofrestru'n hunangyflogedig
- Copïau o unrhyw fudd-daliadau'r wladwriaeth megis Credyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith y mae aelodau o'ch aelwyd yn eu derbyn
Y Broses Ymgeisio
Cyflwynwch eich cais, gan gynnwys tystiolaeth o'r uchod i ysgoloriaethau@aber.ac.uk am ystyriaeth. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom.
Y dyddiad cau i ymgeisio ar gyfer mynediad yn 2025 yw 30 Awst 2025.
Telerau ac Amodau Bwrsariaeth Gwyneth Evans
Os ydych yn wynebu caledi ariannol ond nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwyster ar gyfer y fwrsariaeth hon, efallai y gallwch wneud cais am y Gronfa Caledi i Fyfyrwyr. I gael y meini prawf cymhwyster, a sut i wneud cais, ewch i: https://www.aber.ac.uk/cy/studentservices/money/managing-money/ygronfacaledimyfyrwyr/