Gwyddor Milfeddygaeth (BVSc) - Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau ar gael i Ymgeiswyr
Mae ymgeiswyr am y cwrs Milfeddygaeth (BVSc) yn dilyn llwybr penodol ar gyfer bwrsariaethau. Mae'n bleser gennym gynnig y canlynol. I weld ein hysgoloriaethau a'n bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr Gwyddor Milfeddygaeth presennol, ewch i'n gwefan.
Bwrsariaethau sy’n dibynnu ar brawf modd:
Ysgoloriaeth Defi Fet
Bwrsariaethau Sbardun - £500
Bwrsariaethau Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg - £400 y flwyddyn
Anogir myfyrwyr i ymgeisio am gynifer o fwrsariaethau ag y dymunant ond mae'r brifysgol yn cadw'r hawl i flaenoriaethu ceisiadau gan fyfyrwyr a fu'n aflwyddiannus yn flaenorol.
Mae myfyrwyr sy'n cofrestru ar y cwrs Milfeddygaeth (BVSc) hefyd yn cael manteisio ar y gwasanaethau a gynigir gan ein Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd, yn cynnwys y Gronfa Caledi.
