Gwyddor Milfeddygaeth (BVSc) - Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau ar gael i Fyfyrwyr Presennol

Bwrsariaethau sy’n dibynnu ar brawf modd:

Mae'r rhain yn cael eu gweinyddu gan y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol. Gweler Bwrsariaeth trwy brawf modd y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol.

Bwrsariaethau Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg - £400 y flwyddyn

Bydd myfyrwyr sy'n cofrestru ar fodiwlau'n cynnwys o leiaf 5 credyd trwy gyfrwng y Gymraeg, ac sy'n cyflwyno aseiniadau penodedig yn Gymraeg, yn cael £400 am bob blwyddyn y gwnânt hynny.

Does dim angen ymgeisio am y fwrsariaeth hon - bydd yn cael ei dyfarnu'n awtomatig i fyfyrwyr cymwys.

Bwrsariaeth Ddwyieithog Astudiaethau Efrydiau Allanol (EMS) - £500 dros 2 flynedd

Mae'r fwrsariaeth hon ar gael i fyfyrwyr yn ystod ei ail blwyddyn sy'n gwneud o leiaf 5 wythnos o'u profiad 10 wythnos Astudiaethau Efrydiau Allanol Hwsmonaeth Anifeiliaid (AHEMS) mewn amgylchedd Cymraeg neu ddwyieithog Cymraeg/Saesneg.

Bydd y sawl sy'n derbyn myfyrwyr ar leoliad yn tystio i'r agweddau cyfrwng Cymraeg a gall myfyrwyr gyflwyno cais am daliad ar ôl i'r 5 wythnos gael eu cwblhau a'u cadarnhau.

Am wybodaeth bellach cysylltwch a vetssat@aber.ac.uk. Dyddiad cau yw 31 Awst yn yr ail flwyddyn. 

Bwrsariaethau Gweledigaeth - £500

Bydd 4 bwrsariaeth i fyfyrwyr sy'n cwblhau aseiniad ar ddechrau eu hail flwyddyn yn mynd i'r afael â mater allweddol sy'n wynebu'r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru.

Cyflwynir y manylion i fyfyrwyr ym mis Medi ei ail flwyddyn, gyda'r dyddiad cau ym mis Rhagfyr. Caiff y myfyrwyr llwyddiannus eu talu ym mis Mawrth.

Am wybodaeth bellach cysylltwch a vetssat@aber.ac.uk 

Anogir myfyrwyr i ymgeisio am gynifer o fwrsariaethau ag y dymunant ond mae'r brifysgol yn cadw'r hawl i flaenoriaethu ceisiadau gan fyfyrwyr a fu'n aflwyddiannus yn flaenorol.

Mae myfyrwyr sy'n cofrestru ar y cwrs Milfeddygaeth (BVSc) hefyd yn cael manteisio ar y gwasanaethau a gynigir gan ein Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd, yn cynnwys y Gronfa Caledi.