Bwrsariaeth Waldo Williams

Bwrsariaeth yw hon i gefnogi myfyrwyr israddedig sy’n astudio am radd anrhydedd sengl/gyfun yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.

Mae’r Bwrsariaeth ar gael i ymgeiswyr iaith gyntaf, ail iaith a dechreuwyr pur sy’n astudio yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, ac mae hi ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio ar sail amser llawn neu yn rhan-amser.

Gallai ymgeiswyr llwyddiannus dderbyn hyd at £500 yn eu blwyddyn gyntaf.

Sut i wneud Cais

Os hoffech wneud cais ar gyfer mynediad 2026, cwblhewch y ffurflen gais a'i chyflwyno erbyn 20 Chwefror 2026.