Traddodiad crïwr tref wedi'i ail-ddychmygu ar gyfer Dydd San Ffolant

Er Mwyn Dyn / For Crying Out Loud yn ystod Parêd Santes Dwynwen Aberystwyth. Credyd: Isaac Peat

Er Mwyn Dyn / For Crying Out Loud yn ystod Parêd Santes Dwynwen Aberystwyth. Credyd: Isaac Peat

13 Chwefror 2026

Mae academyddion yn ail-ddychmygu rôl hanesyddol y crïwr tref ar Ddydd San Ffolant (dydd Sadwrn 14 Chwefror) fel rhan o brosiect perfformio newydd.

Yn dyddio'n ôl i'r oesoedd canol, crïwyr tref oedd y prif ffordd o rannu newyddion â phobl y dref, gan fod llawer o’r trigolion hyn yn anllythrennog.

Roedd y crïwyr yn canu cloch i wneud cyhoeddiadau swyddogol yn y strydoedd ac roedd llawer yn gwisgo'n gywrain mewn cot goch ac aur, llodrau gwyn, esgidiau du a het drichorn.

Heddiw, rôl seremonïol yn unig sydd gan y crïwr tref, gyda llawer o drefi’n ei ailsefydlu ar gyfer dathliadau, digwyddiadau elusennol a chystadlaethau ledled y byd.

Dan arweiniad y gwneuthurwr theatr Dr Louise Ritchie o Brifysgol Aberystwyth, mae ‘Er Mwyn Dyn / For Crying Out Loud’ yn brosiect newydd sy’n cynnig golwg wahanol iawn ar y traddodiad.

Wedi’u gwisgo mewn secwinau aur, yn gwthio troli siopa aur ac yn cario clychau, bydd y grŵp ‘Crïwyr Aber’ benywaidd yn cerdded drwy strydoedd y dref yng ngorllewin Cymru yn “gweiddi” yn gyhoeddus straeon a phrofiadau menywod sy’n haeddu cydnabyddiaeth.

Dywedodd Dr Ritchie, o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu:

“Am ganrifoedd, fe chwaraeodd crïwyr tref rôl ddiddorol iawn yn eu cymunedau, gan wasanaethu fel prif gyfrwng gyfathrebu cyhoeddus ymhell cyn i bapurau newydd, radio, neu rybuddion digidol fodoli. Roedd eu presenoldeb amlwg, eu canu clychau a'u gwisg seremonïol yn golygu bod pobl yn eu hadnabod ar unwaith, ac roedd eu gallu i siapio’r ffordd y byddai gwybodaeth yn cael ei lledaenu - ac i helpu i gynnal trefn, undod a gwybodaeth - yn eu gwneud nhw’n hollol amhrisiadwy.”

Yn dilyn dechrau'r prosiect ddiwedd y mis diwethaf i ddathlu nawddsant cariad Cymru, Santes Dwynwen, mae Crïwyr Aber wedi gwneud sawl ymddangosiad o amgylch y dref gyda'u troli aur arbennig, sydd hefyd yn gwasanaethu fel blwch post.

Mae aelodau’r cyhoedd wedi cael gwahoddiad i ysgrifennu llythyr caru at fenyw yr hoffen nhw ei dathlu ac, ar Ddydd San Ffolant, bydd pob llythyr yn cael ei weiddi’n uchel ar strydoedd Aberystwyth.

Bydd y diwrnod marathon hwn o weiddi’n dechrau yfory (14 Chwefror) yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, cyn gwneud ei ffordd i lawr Rhiw Penglais ac i dref Aberystwyth i weiddi cynnwys dros gant o lythyrau a dderbyniwyd.

Ychwanegodd Dr Ritchie o Brifysgol Aberystwyth:

“Yn draddodiadol, mae’r crïwr tref wedi bod yn ffigwr sy’n gysylltiedig ag awdurdod, gwelededd a llais cyhoeddus, ond yn hanesyddol rôl i ddynion oedd honno’n bennaf. Mae ein prosiect yn ail-ddychmygu’r traddodiad hwn fel gweithred o gydnabyddiaeth ar y cyd, gan symud y ffocws i’r gwerthfawrogiad ehangach sydd gennym tuag at fenywod yn ein bywydau, pob rôl a phob cyfraniad. Mae’r gweiddi hyn – llawen, doniol, diffuant neu herfeiddiol – yn ffurfio côr byw sy’n anrhydeddu menywod y mae eu cyfraniadau’n aml yn cael eu hanwybyddu mewn cartrefi, gweithleoedd a chymunedau.”

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth, bydd y gymuned yn clywed ysgrif sydd newydd ei chomisiynu gan yr awdur newydd o Gymru Courtney Olwen. Wedi'i hysbrydoli gan yr enwebiadau a dderbyniwyd, bydd yr ysgrif yn llythyr caru ar y cyd i ddathlu menywod Aberystwyth yn lleol ac fel rhan o foment fyd-eang o gydnabyddiaeth.

Mae Er Mwyn Dyn / For Crying Out Loud yn rhan o raglen ehangach o weithgareddau a gynhelir ym mis Chwefror a Mawrth 2026 i ddathlu cydnabyddiaeth Aberystwyth a Cheredigion fel Dinas Llên yn ddiweddar, a rhan o rwydwaith byd-eang UNESCO o Ddinasoedd Creadigol.