Ein Cyfleusterau

Grŵp o bobl yn ffilmio perfformwyr ar lwyfan

Mae gennym gyfleusterau, adnoddau a chyfarpar rhagorol a fydd o gymorth ichi ar ein holl fodiwlau.

Darllenwch ymlaen i ganfod mwy.

Ymhlith ein cyfleusterau mae:

  • tair stiwdio berfformio â chyfarpar cyflawn
  • stiwdio deledu ac oriel
  • labordy ffilm analog
  • stiwdio recordio sain
  • editing and grading suites
  • sinema
  • tair ystafell ymarfer fawr â chyfarpar cyflawn
  • cyfarpar gwisgoedd a wardrob
  • stiwdio senograffeg benodol yng nghanol y dre
  • y tirlun lleol: adnodd sy'n ysbrydoli'n greadigol.

Ewch ar daith rithwir o gwmpas yr Adran

Rydym wedi’n lleoli yn agos at y sefydliadau canlynol ac wedi meithrin perthynas agos â hwy:

  • Canolfan y Celfyddydau - cartref i theatr prif lwyfan, theatr stiwdio, neuadd gyngherddau, pedair oriel a sinema
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru - un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint yn y Deyrnas Unedig, sy'n cynnwys Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru a’r Archif Darlledu Cenedlaethol.

Yn y dref a'r cyffiniau mae cyfoeth o leoliadau a safleoedd ar gyfer perfformio a ffilmio sy'n cael eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn. Mae'r lleoliadau hyn, ynghyd â chyfleusterau Canolfan y Celfyddydau, yn cwrdd ag amrywiaeth eang anghenion ein myfyrwyr, staff ac ymarferwyr gwadd.

I wneud ymholiad ynglŷn ag defnyddio ein cyfleusterau, anfonwch e-bost i tftstech@aber.ac.uk