Amdanom ni
Mae Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu mewn sefyllfa unigryw i allu darparu cyfleoedd dysgu ac ymchwil o ansawdd uchel i fyfyrwyr o Gymru, gweddill Prydain, Ewrop a'r tu hwnt.
Fel un o'r adrannau mwyaf ei maint a'i harwyddocâd o'i math ym Mhrydain, ei nod hanesyddol yw bodloni anghenion a dyheadau amrywiol ei chyfranddalwyr a'i haelodau. Mae Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu doniau unigolion sy'n mynd ymlaen i ragori yn y diwydiannau creadigol.
Pam dewis Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Yn Aber fe fyddwch yn byw mewn tref brifysgol ddwyieithog, eangfrydig a bywiog, rhwng bryniau tirion y Canolbarth a glannau prydferth Bae Ceredigion. Byddwch yn rhan o brifysgol gampws sydd â'i chanolfan chwaraeon ei hun a Chanolfan Gelfyddydau brysur; ac fe fyddwch ddrws nesaf i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint yng ngwledydd Prydain.
Mae gan ein hadran enw ardderchog am ansawdd ein dysgu, yr amgylchedd dysgu a'r profiad diwylliannol rydym yn eu cynnig i'n myfyrwyr. Yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2017, cafodd ein hadran 94% boddhad myfyrwyr am ein cynllun gradd Astudiaethau Drama a Theatr W400, a 93% boddhad myfyrwyr am ein cynllun gradd Astudiaethau Ffilm a Theledu / Astudiaethau Drama a Theatr WW64. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu profiadau bythgofiadwy i chi.
Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth yw'r adran a gafodd y sgôr uchaf o holl adrannau'r Celfyddydau a'r Dyniaethau yng Nghymru yn ôl canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, gyda 60% o'r ymchwil a gyflwynwyd yn cael ei hasesu'n safon sy'n arwain y byd.
Mae'r Adran yn ymfalchïo yn y cysylltiadau bywiog a hirsefydlog sydd ganddi â phartneriaid allweddol yn y diwydiant, er enghraifft y BBC, S4C, Arad Goch, Theatr Genedlaethol Cymru, Music Theatre Wales, Cwmnïau Boom Pictures a Fiction Factory, Cyngor Prydeinig Cymru, a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Mae'r Adran yn Bartner Addysgu AVID ardystiedig.
Mae'ch dyfodol chi yn bwysig iawn i ni fel adran. Yn yr ail flwyddyn, mae pob myfyriwr ffilm a theledu yn cymryd modiwl craidd sy'n darparu lleoliad gwaith gyda chwmnïau sy'n cynnwys - ymhlith eraill - y BBC, ITV, cwmni ffilmiau Eon, ac uned Ffilm Cyngor Sir Caint. Mae cwmni Fiction Factory yn ffilmio cyfres ddrama'r BBC 'Y Gwyll/Hinterland' yn yr ardal hon, ac rydym wedi cael mwy na 40 o leoliadau gwaith i fyfyrwyr gyda nhw.
Mae nifer sylweddol o'n graddedigion yn gweithio ym myd theatr, ffilm, teledu a radio, rhai ohonynt ar lefelau uchel iawn, pob un mewn swyddi sy'n rhoi ysbrydoliaeth a boddhad iddynt. Mae mwyfwy ohonynt yn dod yn fentrwyr busnes, yn sefydlu cwmnïau sy'n deillio o'r Brifysgol. Mae llawer o'n myfyrwyr hefyd yn mynd ymlaen i yrfaoedd ym meysydd cysylltiadau cyhoeddus, personél, rheoli, TG, gwaith ar eu liwt eu hun a gwaith cymunedol.