Ebost: ddr@aber.ac.uk
Wedi'i hangori yng Nghymru, a gyda phroffil ryngwladol ar draws pob un o'i disgyblaethau, mae'r Adran yn amlygu ymchwil ac astudiaethau o bwysigrwydd rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol o fewn theatr, ffilm, perfformio a'r cyfryngau o fewn amgylchedd diwylliannol globaleiddiedig.
Mae'r ymchwil mewn Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu (ThFfTh) ar y blaen-sail o astudio theatr, ffilm, perfformiad a chyfryngau o fewn cyd-destunau diwylliannol hanesyddol, yn ddaearyddol ac yn wleidyddol leoli. Mae tri Grŵp Ymchwil:
- Ymchwil Theatr a Perfformiad
- Ymchwil Ffilm a Theledu
- Ymchwil Theatr a Cyfryngau Cymru
Yn ogystal, ceir pedair thema ymchwil traws-ddisgyblaethol mewn ThFfTh: Hanes; gwleidyddiaeth; Place; Estheteg.
REF 2014: Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth y 6ed ym Mhrydain am bwer ymchwil.
Rydym wrth ein bodd gyda’r newyddion bod 50% o’n ymchwil adrannol wedi ei ddyfarnu yn flaenllaw mewn cyd-destun byd eang tra bod 40% wedi derbyn cydnabyddiaeth ar lefel rhyngwladol. Mae’r cyrhaeddiad hwn yn brawf o ansawdd yr ymchwil blaengar sydd wedi ei wreiddio ym mhrofiad dysgu ac addysgu Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth. Rydym yn falch o’r ffaith i’r adran ddychwelyd 28.1 aelod o staff ymchwil-weithredol i REF a arweiniodd at safle o 6ed ym Mhrydain yng nghyd-destun pwer ymchwil. Mae canlyniadau REF yn dystiolaeth o’r ffaith bod ymchwil yn ganolog i waith a bywyd yr adran ac yn cael effaith eang a chyfoethog ar brofiad ein myfyrwyr. Rydym yn hynod falch i’r adran wneud cyfraniad canolog i gyflwyniad iaith Gymraeg REF Prifysgol Aberystwyth ac i’r Brifysgol gyfrannu yn helaethach nag unrhyw brifysgol arall ym Mhrydain i’r categori hwn. Llongyfarchiadau i staff a myfyrwyr yr adran ar lwyddiant sy’n parhau traddodiad o ardderchogrwydd ymchwil heb ei ail.
Yn rhan o’n hymrwymiad i gynhyrchu a rhannu ymchwil newydd a dyfeisgar, mae’r Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ymchwil bob blwyddyn. Mae pob digwyddiad ymchwil yn galluogi myfyrwyr, staff, a siaradwyr amlwg o brifysgolion eraill i rannu a datblygu eu gwaith ymchwil presennol mewn amgylchedd cadarnhaol a chefnogol.
Mae’r seminarau hyn yn agored i unrhyw fyfyriwr a staff o fewn a’r tu allan i’r brifysgol. Maent hefyd yn agored i unrhyw aelod o’r cyhoedd ac ni chodir tâl mynediad. Felly, os gwelwch ddigwyddiad sydd o ddiddordeb i chi, cofiwch ddod.
Am wybodaeth ynglŷn â Digwyddiadau Ymchwil TFTS, cliciwch yma.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r grwpiau ymchwil, gan gynnwys aelodau o staff, ewch i:
- Grwp Ymchwil Ffilm a Theledu
- Grwp Ymchwil Theatr a Perfformio
- Grwp Ymchwil Theatr a Chyfryngau Cymru