Prifysgol Aberystwyth yn rhan o raglen fawr i yrru arloesedd mewn perfformio byw

Aelodau o dîm Prifysgol Aberystwyth sy'n rhan o Amgen. O'r chwith i'r dde: Dr Louise Ritchie, Dr Kim Knowles, Dr Gareth Evans, Dr Andrew Filmer, Louise Amery, Dr Ffion Jones, Rebecca Mitchell a Dr Piotr Woycicki

Aelodau o dîm Prifysgol Aberystwyth sy'n rhan o Amgen. O'r chwith i'r dde: Dr Louise Ritchie, Dr Kim Knowles, Dr Gareth Evans, Dr Andrew Filmer, Louise Amery, Dr Ffion Jones, Rebecca Mitchell a Dr Piotr Woycicki

26 Tachwedd 2026

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn bartner yn Amgen, rhaglen fawr bum mlynedd sy'n dod â phrifysgolion a sefydliadau creadigol ledled Cymru ynghyd i yrru arloesedd a thwf yn y diwydiannau creadigol.

Bydd Amgen yn archwilio sut y gellir cyfuno technoleg greadigol â pherfformio byw i ddatblygu cynnyrch, prosesau cynhyrchu a phrofiadau newydd i gynulleidfaoedd.

Dan arweiniad Prifysgol De Cymru, bydd Amgen: Perfformio Byw a Thechnoleg Greadigol yn rhedeg o 2027 i 2032. Ariennir y rhaglen gan Raglen Clwstwr Diwydiannau Creadigol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC). Ategir grant o £6.75 miliwn oddi wrth yr AHRC gan gyd-fuddsoddiad o £7.35 miliwn gan bartneriaid, sy'n rhoi cyfanswm gwerth £14.1 miliwn i'r rhaglen.

Dywedodd Dr Andrew Filmer, Cyd-arweinydd y Prosiect ac Uwch Ddarlithydd mewn Theatr a Pherfformio ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae technolegau creadigol yn creu cyfleoedd i ailystyried sut y caiff perfformiadau byw eu cynhyrchu a’u profi. Er mwyn manteisio ar y datblygiadau hyn y tu allan i'r prif ganolfannau trefol, mae angen modelau newydd ar gyfer arloesi creadigol. Mae Amgen yn rhoi cyfle i ni gysylltu ein hymchwil academaidd ag ymarferwyr creadigol ledled Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at weld y dulliau newydd a ddaw i'r amlwg a sut y gallant lunio dyfodol perfformio byw yng Nghymru a thu hwnt.”

Bydd pedwar academydd o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth hefyd yn cymryd rhan fel Cymdeithion Ymchwil ac Arloesi, a bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn darparu cymorth allweddol i'r prosiect.

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal rhai o Labordai Arloesi'r rhaglen, gan ddod ag academyddion a phartneriaid o'r diwydiant ynghyd i ddatblygu prosiectau sy'n edrych ar ddulliau newydd o berfformio byw a thechnoleg greadigol.

Dywedodd Dr Kim Knowles, Pennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Gall arbenigedd ymchwil yr Adran ym maes theatr a pherfformio helpu i lywio'r ffordd y mae'r sector perfformio byw yn ymateb i dechnolegau sy'n dod i'r amlwg ac yn edrych ar ffyrdd newydd o weithio. Mae Amgen yn cynnig cyfle cyffrous i fanteisio ar yr arbenigedd hwn fel rhan o raglen arloesi fawr, gan gydweithio â sefydliadau creadigol i ddatblygu dulliau newydd o berfformio byw.”

Ymhlith y partneriaid mae Prifysgol De Cymru, Prifysgol Bangor, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, PDR ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Theatr Clwyd, Canolfan Mileniwm Cymru, CULTVR, Frân Wen, Arad Goch a Theatr Cymru.

Dywedodd yr Athro Lisa Lewis, Cyd-gyfarwyddwr Amgen o Brifysgol De Cymru:

"Mae'r cyllid hwn yn cynrychioli buddsoddiad hanfodol i'r sector perfformio byw yng Nghymru, gan alluogi effaith economaidd, gymdeithasol a diwylliannol y tu hwnt i ganolfannau trefol. Bydd yn sicrhau cysylltiadau gwell rhwng pobl a lleoedd creadigol, wrth wella cyfranogiad a chynrychiolaeth.”

Wrth wraidd Amgen bydd cyflymydd arloesi pwrpasol, a fydd yn galluogi sefydliadau creadigol i ddatblygu a phrofi syniadau newydd sy'n cyfuno perfformio byw a thechnoleg.

Wrth weithio ledled Cymru, bydd y rhaglen yn cefnogi ymchwil a datblygu, gan helpu'r sector i archwilio dulliau cynhyrchu newydd a chreu cyfleoedd i ddod â syniadau arloesol i'r farchnad.

Nod arall Amgen yw mynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol o ran buddsoddiad creadigol. Drwy ddosbarthu cyllid a chymorth ar draws y sector, bydd yn cysylltu cymunedau creadigol gwledig a threfol ac yn ysgogi twf economaidd ledled Cymru.

Erbyn 2032, mae Amgen yn anelu at gynyddu gallu ymchwil a datblygu, cyflogaeth, buddsoddiad a chydweithio ar draws sectorau perfformio byw a thechnoleg greadigol Cymru, tra’n rhoi mynediad i gynulleidfaoedd at brofiadau newydd.