Prof Jamie Medhurst
BA (Anrh), MLib, PhD, FRHistS, FHEA
Professor of Film and Media
Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
Manylion Cyswllt
- Ebost: jsm@aber.ac.uk
- ORCID: 0000-0001-5054-9403
- Swyddfa:2.01 Adeilad Parry-Williams
- Ffôn: +44 (0) 1970 2152
- Google Scholar: https://scholar.google.co.uk/citations?user=Sj1_KSQAAAAJ
- Proffil Porth Ymchwil (https://research.aber.ac.uk/en/persons/e076bde8-6a82-44a7-8ab0-6ef999ecc650)
- Personal Pronouns: Fe/Ei
Yn enedigol o Bont-y-pwl, cefais fy nwyn fyny yng Nghasnewydd, de Cymru a mynychu Ysgol Gymraeg Casnewydd (1973-79) ac Ysgol Gyfun Rhydfelen (1979-86). I Aberystwyth wedyn i astudio ar gyfer gradd mewn Hanes a graddio ym 1989 cyn gwneud cwrs ôl-raddedig mewn Astudiaethau Gwybodaeth, eto yn Aberystwyth (ble arall?!).
Ers 1996, rwyf wedi bod yn Ddarlithydd (yna Uwch Darlithydd, Darllenydd, a nawr Athro Ffilm a'r Cyfryngau) yn yr Adran a chyn hynny fe fûm yn Diwtor Astudiaethau Gwybodaeth yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth (1993-96). Rwyf wedi ymgymryd â gwahanol swyddi gweinyddol a rheolaethol yn yr Adran/Prifysgol: Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu, Cyfarwyddwr Ymchwil, Pennaeth Adran, a Dirprwy Ddeon. Rwyf yn briod ac mae gennym dri o blant (un wedi tyfu fyny a phriodi). Y tu allan i'r gwaith rwyf yn mwynhau rygbi (gwylio yn hytrach na chwarae y dyddiau hyn!), pysgota, treulio amser gyda'r plant - ac chwarae'r organ a phregethu'n achlysurol yn Ardal Weinidogaeth Leol Aberystwyth yr Eglwys yng Nghymru. Treulir rhan o fis Rhagfyr mewn siwt coch a gwyn, 'sgidiau du, a barf gwyn ffals
- Cyfarwyddwr Ymchwil Uwchraddedig Adrannol
Rwy'n Gymrawd y Gymdeithas Hanes Frenhinol a'r Academi Addysg Uwch ac yn arholwr allanol yn Birkbeck, Prifysgol Llundain (BA Film and Media) a Phrifysgol Lerpwl (BA Communication and Media). Rwyf wedi arholi oddeutu 20 traethawd hir PhD fel arholwr allanol mewn prifysgolion yn y DU, Sweden, ac Awstralia. Rwyf yn aelod o Bwyllgor Llywio rhwydwaith ymchwil hanes y cyfryngau, EMHIS (https://emhis.blogg.lu.se/). Adolygais bapurau i Contemporary Wales, Critical Studies in Television, Media History a Twentieth Century British History ynghyd â chynigion am lyfrau i Routledge, Sage Publications a Palgrave-Macmillan.
- Dydd Mercher 12.00-14.00
Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar hanes darlledu a pholisi darlledu. Rwyf wedi cyhoeddi llyfrau, penodau mewn llyfrau, erthyglau, ac wedi cyflwyno papurau cynhadledd sydd wedi gwneud gwahaniaeth i'n syniadau am y ffyrdd y datblygodd teledu cynnar ym Mhrydain ac am y rôl a chwaraewyd gan ddarlledu ym mywyd Cymru. Mae fy ymchwil hefyd wedi archwilio'r rôl a chwaraewyd gan ddarlledu wrth gyfrannu at hunaniaeth ddiwylliannol a chenedlaethol yng Nghymru. Bydd fy ymchwil gyfredol ar bolisi darlledu mewn DU ddatganoledig, gyda chydweithwyr yn Ulster, Glasgow, a Llundain, yn bwydo dadleuon polisi ar batrymau darlledu’r dyfodol ym Mhrydain.
Rwyf yn gweithio ar nifer o lyfrau/prosiectau ar hyn o bryd:
Teledu a Chymru yn y 1970au [erthygl]
The cultural significance of broadcasting transmitters in Wales [erthygl]
Broadcasting Policy in a Devolved UK [prosiect ymchwil gyda chydweithwyr ym Mhrifysgolion Glasgow, Goldsmiths Llundain, ac Ulster]
Rhywbeth ar hyd linellau Broadcasting, Culture, and Society in Wales: historical and contemporary perspectives [llyfr fydd yn mynd â fi at fy ymddeoliad!]
Entangled Media Histories [prosiect ymchwil gyda chydweithwyr ym mhrifysgolion Bournemouth, Lund, a Hamburg]
Grantiau/Ysgoloriaethau Ymchwil:
- Gwobr Syr David Hughes Parry, 2006/07, i gynorthwyo gwaith ar lyfr (A History of Independent Television in Wales, 1956-1968).
- Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Medi 2008-Ionawr 2009 - cyfnod ymchwil i gwblhau llyfr (A History of Independent Television in Wales, 1956-1968).
- Grant Ymchwil Bach yr Academi Brydeinig, Tachwedd 2008-Awst 2009; The Early Years of Television and the BBC, 1923-1939.
- Cronfa Ymchwil Prifysgol Aberystwyth, Tachwedd 2008-Awst 2009; The Early Years of Television and the BBC, 1923-1939;
- Grant Cynhadledd Dramor yr Academi Brydeinig, 'Television: the experimental moment 1935-1955', Prifysgol Paris 8, 27-29 Mai 2009.
- Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Chwefror 2010-Ionawr 2012; rhwydwaith ymchwil ryngwladol ar hanes darlledu
- Ymddiriedolaeth Leverhulme, 2016-19, Teledu yng Nghymru yn y 1970au
- Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Mai 2025-Ebrill 2027: ‘Polisi Darlledu yn y DU Datganoledig’
Arolygu ac Arholi MPhil/PhD:
Arolygu
Lewis Bullen, ‘For the Children: a history of early children’s television and the BBC, 1936-63'
Gwenan Edwards, ‘What role does screen media play in maintaining and developing indigenous minority language in the UK, and how significant is it in revitalising language and culture?’
Lucy McFadzean (Ysgoloriaeth AHRC): ‘Community, politics and the economy in the cultural policies of the Greater London Council 1981-6.’
Gregor Cameron: ‘Re-performing Who: Tracing Theatre Technique Through Television Time’
Donald F. McLean (PhD trwy gyhoeddiadau): ‘Investigations into the emergence of British television, 1926-1936’
Dafydd Sills-Jones: ‘History Documentary on UK Terrestrial Television, 1982-2002.’
Rwyf wedi arholi 26 traethawd ymchwil PhD yn y meysydd hyn, gan gynnwys darlledu gwasanaeth cyhoeddus, teledu Tsieiniaidd, radio lleol yn Lloegr, portreadau o Gymru mewn drama deledu ddogfennol a rhyngweithiol. Byddai gen i ddiddordeb i glywed gan ddarpar fyfyrwyr ymchwil sy'n dymuno archwilio unrhyw agwedd ar hanes darlledu neu faterion cysylltiedig â darlledu a hunaniaeth genedlaethol.
In: Historical Journal of Film, Radio and Television, 2025.
Research output: Contribution to journal › Book/Film/Article Review › peer-review
In: Political Quarterly, Vol. 95, No. 1, 09.04.2024, p. 86-91.
Research output: Contribution to journal › Article › peer-review
Research output: Non-textual form › Web publication/site
In: Critical Studies in Television, Vol. 18, No. 4, 31.12.2023, p. 491-493.
Research output: Contribution to journal › Book/Film/Article Review
In: Radio Journal, Vol. 21, No. 2, 21.12.2023, p. 253-255.
Research output: Contribution to journal › Book/Film/Article Review
