Gweithdai Haf 2019

 

Archwilio cysawd yr haul. Bydd y disgyblion yn defnyddio clustffonau RW i archwilio cysawd yr haul ac ystyried ei raddfa.

Adeiladu eich planed eich hun. Bydd cyfle i'r disgyblion ddylunio eu planed eu hunain. Byddant yn cael eu hannog i ystyried y seren y mae’r blaned yn troi o’i chwmpas, a yw'r Blaned yn greigiog neu'n gawr nwy, ac a oes unrhyw fywyd yn bresennol.

Parasitiaid Ffantastig. Bydd y disgyblion yn archwilio byd parasitiaid gan ddefnyddio microsgopeg 3D, yn ymchwilio i systemau organau anifeiliaid ac yn dechrau meddwl sut y gallem atal eu cylch bywyd marwol.

Cimychiaid Llipa a Sêr Môr Medda. Bydd y disgyblion yn archwilio effeithiau posibl cynyddu CO2 atmosfferig ar rai o'n hoff greaduriaid morol. Bydd disgyblion yn mynd yn  agos at rai o'n creaduriaid arfordirol, yn ystyried sut y gallai dŵr y môr gael ei asideiddio, ac yn mesur sut y mae hynny'n effeithio ar wahanol organebau.