Tîm Trio Sci Cymru

 

Yn arwain y prosiect mae'r Prif Ymchwilwyr yr Athro Andrew Evans a'r Athro Joanne Hamilton. Yr Athro Andrew Evans yw Cyfarwyddwr y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg a Phennaeth y grŵp ymchwil ffiseg deunyddiau. Gweithiodd yr Athro Joanne Hamilton yn agos gydag ysgolion uwchradd ledled Gorllewin Cymru pan arweiniodd raglen Rhwydwaith Cynaliadwyedd Cymru (SusNet).

Rheolir rhaglen allgymorth yr ysgol gan Rachel Rees a Dr. Scott Tompsett. Mae'r ddau yn athrawon gwyddoniaeth profiadol sydd rhyngddynt wedi gweithio yn llawer o'r ysgolion lleol. Hefyd yn helpu gyda datblygu a darparu deunydd mae Cymdeithion Allgymorth Gwyddoniaeth Carys Huntly, Lauren Colbeck Kirby a Martin Nelmes sydd i gyd â phrofiad helaeth mewn Allgymorth Gwyddoniaeth. Mae gan bob aelod sy'n cymryd rhan yn y prosiect ei arbenigedd ei hun mewn Bioleg, Cemeg neu Ffiseg.

Yn darparu arbenigedd academaidd mewn Ffiseg a Bioleg mae'r darlithwyr Dr. Rachel Cross a Dr. Jo Wallace. Mae Dr. Rachel Cross yn Ddarlithydd ac Ymchwilydd Gyrfa Gynnar yn yr Adran Ffiseg ac mae Dr. Jo Wallace yn Ddarlithydd mewn Gwyddor Chwaraeon.

Yn cefnogi'r tîm trwy ddarparu cefnogaeth dechnegol a gweinyddol mae Steve Fearn, Hazel Sharp a Jackie Hedley. Steve Fearn yw cyfarwyddwr clwb Roboteg Aberystwyth (www.aberrobotics.club) ac mae ganddo brofiad helaeth o allgymorth ysgolion. Mae Hazel Sharp yn fferyllydd cynhyrchion naturiol. Mae hi'n gweithio'n agos gyda'r tîm i sicrhau bod ein gweithdai bioleg a chemeg yn gweithio bob tro. Mae Jackie Hedley yn darparu cefnogaeth ariannol a gweinyddol i'r tîm.

Aelodau ein Tîm