Prifysgol Aberystwyth

Ymgeisiwch Nawr ar gyfer Medi 2024 Dysgwch fwy am ein cyrsiau israddedig

Aberystwyth

Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru Canllaw Prifysgolion Da 2024, The Times & The Sunday Times

Aberystwyth

Meistrolwch eich dyfodol yma Dysgwch fwy am ein cyrsiau uwchraddedig

Chwilio am Gwrs

Astudio gyda Ni

Mae ymchwil arloesol y Brifysgol yn bwydo’n syth i’n gwaith dysgu, gan gyfoethogi ein cyrsiau a chreu profiad dysgu heb ei ail, gan eich helpu i feithrin sgiliau a datrys problemau go iawn.

Astudiaethau Israddedig:

Astudiaethau Uwchraddedig:

Opsiynau Astudio Eraill

Ymchwil yn Aberystwyth

Mae ymchwil Aberystwyth yn helpu i newid y byd er gwell, drwy wneud gwahaniaeth i fywydau go iawn. Rydym yn ymdrin â rhai o heriau mwyaf taer cymdeithas, gan gynnwys newid hinsawdd, iechyd byd-eang, newidiadau cymdeithasol, ac archwilio’r gofod.

Darganfyddwch Aberystwyth

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i lleoli ar arfordir y gorllewin, rhwng Mynyddoedd y Cambria a Bae Ceredigion. Mae’r gymuned yn amrywiol a chroesawgar o fewn tref farchnad hanesyddol ar lan y môr sydd â diwylliant Cymreig cosmopolitan. Gyda chymaint i’w gynnig, bydd gennych ddigonedd o ddewis.

Cymuned

Newyddion

Gweld y newyddion yn llawn

Y Brifysgol yn llongyfarch cyn-fyfyriwr ar ei ethol yn Brif Weinidog

Mae Meri Huws, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth, a'r Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi llongyfarch Vaughan Gething, sy'n raddedig o Aberystwyth, ar ei ethol yn Brif Weinidog.

Grawn sy’n gwrthsefyll sychder yn ‘hanfodol’ wrth i’r boblogaeth gynyddu - cymrawd ymchwil newydd

Mae ymchwil byd-enwog planhigion Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn hwb gyda chymrodoriaeth ymchwil sy'n cael ei hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd. 

Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth yn rhan o oriel celf gyfoes genedlaethol newydd

Mae Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth yn rhan o Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol newydd i Gymru, a gynlluniwyd i wneud casgliadau celf cyhoeddus yn fwy hygyrch ac i gefnogi artistiaid yng Nghymru.

Prifysgol Aberystwyth yn dathlu Wythnos Wyddoniaeth Prydain

«Amser' yw thema'r ŵyl wyddoniaeth dridiau (12fed tan y 14eg o Fawrth) sy'n cael ei chynnal yr wythnos hon ym  Mhrifysgol Aberystwyth.