Cynigion Cyd-destunol

Yn Aberystwyth, credwn fod pob ymgeisydd yn unigryw.

Rydym yn ymrwymo i ehangu mynediad ac i gefnogi eich taith i addysg uwch.  Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y cewch gynnig ar ochr isaf ystod ein gofynion mynediad arferol (gall hyn fod hyd at ddwy radd, neu hyd at 16 pwynt tariff UCAS yn is na’n gofyniad arferol).  Efallai eich bod yn gymwys os ydych yn:

  • Wedi ymddieithrio oddi wrth eich rhieni

  • Wedi bod mewn gofal

  • Gydag gyfrifoldebau gofalu

  • Yn byw mewn ardal ddifreintiedig (ar sail eich cod post cartref)

  • Yn Ffoadur neu â statws Ceisydd Lloches

  • Y cyntaf yn eich teulu agos i fynd i'r brifysgol

Rydym yn derbyn y wybodaeth hon yn uniongyrchol gan UCAS, felly dim ond i ymgeiswyr sy’n gwneud cais drwy UCAS y mae cynigion cyd-destunol ar gael.

Cofiwch fod gofynion penodol i bynciau (e.e. gradd benodol mewn pwnc, neu bortffolio celf) yn dal i fod yn berthnasol.  Gweler ein tudalennau cwrs israddedig am fanylion ein meini prawf mynediad safonol.

BVSc Gwyddor Milfeddygaeth

Os ydych yn gwneud cais am y cwrs BVSc Gwyddor Milfeddygaeth, bydd eich cais yn cael ei brosesu gan yr RVC, a bydd eu meini prawf derbyn cyd-destunol hwy yn berthnasol.  Gweler eu gwefan am ragor o wybodaeth: Polisi Derbyn yr RVC

Rhwydwaith Seren

Os ydych yn cymryd rhan yn Rhwydwaith Seren Llywodraeth Cymru, anfonwch e-bost atom yn derbyniadau@aber.ac.uk fel y gallwn sicrhau eich bod yn cael eich ystyried ar gyfer cynnig cyd-destunol.

Amgylchiadau Arbennig

Os yw rhywbeth y tu hwnt i’ch rheolaeth wedi effeithio ar eich astudiaethau, rhowch wybod i ni drwy e-bostio derbyniadau@aber.ac.uk naill ai pan fyddwch yn gwneud cais, neu cyn gynted ag y bo modd os bydd y mater yn codi yn ddiweddarach.  Byddwn yn sicrhau bod yr amgylchiadau hyn yn cael eu hystyried yn sensitif gan y gweithiwr derbyn priodol, cyn belled nad ydynt eisoes wedi’u hystyried gan eich bwrdd arholi.