Mrs Sharon King
Lecturer In Veterinary Science
Lecturer In Veterinary Science
Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth
Manylion Cyswllt
- Ebost: shk18@aber.ac.uk
- Swyddfa:1.31 Adeilad Carwyn James
- Ffôn: +44 (0) 1970 622122
- Proffil Porth Ymchwil (https://research.aber.ac.uk/en/persons/0356d70f-2dc0-473c-aa83-74c963f095c4)
Ar ôl graddio o Brifysgol Bryste ym 1995 gyda BSc Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth Anatomegol, astudiais yng Ngholeg Milfeddygol Brenhinol, Llundain lle graddiais gyda gradd Meddygaeth Filfeddygol, BVetMed ym 1999. Dechreuais fy ngyrfa waith yn Nolgellau, Gwynedd, gan weithio fel milfeddyg anifeiliaid cymysg am ddwy flynedd cyn symud i Sir Benfro yn 2001. Gweithiais yn Hwlffordd am wyth mlynedd fel milfeddyg anifeiliaid fferm, gan ymgymryd hefyd â dyletswyddau Milfeddygol Swyddogol mewn lladd-dai cig gwyn a ffatri torri cig coch, ond yn fwy diweddar symudais ar draws i ochr anifeiliaid anwes y practis. Yn 2009, symudais yn ôl gyda fy nheulu i Aberystwyth, fy nhref enedigol, a dechreuais weithio fel milfeddyg clinigol anifeiliaid bach yn un o’r filfeddygfeydd lleol.
Ym mis Medi 2021, ymunais ag Ysgol Gwyddor Filfeddygol newydd Prifysgol Aberystwyth fel Darlithydd mewn Milfeddygaeth. Ar hyn o bryd, rwy'n gweithio pedwar diwrnod yr wythnos i'r Brifysgol yn y rôl hon tra'n dal i weithio fel milfeddyg clinigol un diwrnod yr wythnos. Rwy'n teimlo bod cynnal fy ngwaith clinigol yn bwysig wrth ddod â defnydd clinigol i'r darlithoedd rwy'n eu cyflwyno i'r myfyrwyr milfeddygol yn ogystal â'r myfyrwyr biowyddoniaeth filfeddygol.
- AB1 Veterinary Science (Year 1) (VE11460)
- AB1 Veterinary Science (Year 1) (VE11560)
- AB1 Gwyddor Filfeddygol (Blwyddyn 1) (VS11460)
- AB1 Gwyddor Filfeddygol (Blwyddyn 1) (VS11560)
- AB1 Y Systemau Cardiofasgwlaidd, Anadlol, Ymsymudiad a Chroen (blwyddyn 2) (VS20220)
- AB1 Egwyddorion Gwyddoniaeth (blwyddyn 2) (VS20340)
- AB1 Systemau Ymborth, Endocrin a Throethgenhedlol (blwyddyn 2) (VS20430)
- AB1 Ffurf a Gweithrediad (Blwyddyn 2) (VS22340)
