Cwestiynau Cyffredin

Popeth sydd angen i chi ei wybod am radd Gwyddor Filfeddygol BVSc Aberystwyth a RVC.

Beth mae'r cwrs yn ei gwmpasu?

Mae rhaglen y cwrs BVSc Gwyddor Milfeddygaeth yn cynnig hyfforddiant gwyddonol a chlinigol blaengar mewn meddygaeth filfeddygol. Mae'r cwrs cyffrous hwn yn cyflwyno agwedd ffres trwy ddwyn ynghyd newidiadau technegol, cynnydd clinigol a gwyddonol, a dulliau dysgu ac addysgu ysgogol sy'n rhoi pwyslais ar baratoi'r myfyrwyr ar gyfer gweithio mewn meddygfeydd milfeddygol gwledig cymysg.

Byddwch yn dod i ddeall y wyddoniaeth sy'n sail i ymarfer ac ymchwil filfeddygol yn drwyadl, yn datblygu doniau sylfaenol datrys problemau, dawn i gyfathrebu a gweithio mewn tîm.  Yn ysbytai a meddygfeydd cysylltiol y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol, byddwch yn cael y profiad ymarferol ehangaf gorau posibl.

Bydd y rhaglen gynhwysfawr hon yn eich cynorthwyo i feithrin dealltwriaeth o egwyddorion biolegol sylfaenol swyddogaethau corfforol a chlefydau, a'r gallu i wahaniaethu rhwng y patholegol a'r arferol, i atal clefydau a rheoli'n ddiogel y prosesau cynhyrchu anifeiliaid. Fe fyddwch hefyd yn archwilio cyfleoedd i ymestyn gwybodaeth filfeddygol trwy ymchwil, a datblygu'r arbenigedd i wneud diagnosis, trin clefydau a lleddfu dioddefaint ochr yn ochr â'r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen arnoch i weithio a chyfathrebu'n effeithiol wrth weithio.

Pa mor hir yw'r cwrs?

Rhaglen pum mlynedd ar sail amser llawn yw'r cwrs gradd BVSc Gwyddor Milfeddygaeth.

Ymhle y bydda i'n yn astudio?

Yn y ddwy flynedd gyntaf byddwch yn Aberystwyth yn astudio gwyddorau milfeddygol sylfaenol, yn meithrin sgiliau cychwynnol wrth drin ac archwilio ceffylau, anifeiliaid fferm ac anifeiliaid anwes, yn ogystal â datblygu eich dawn gyfathrebu a gweithio mewn tîm.

Ym mlynyddoedd tri, pedwar a phump byddwch yn astudio ar Gampws y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol yn Hertfordshire, lle byddwch yn ennill gwybodaeth a sgiliau ymarferol mewn gwyddor glinigol sy'n angenrheidiol er mwyn ichi allu cymryd rhan gyflawn mewn meddygfa glinigol, meddygfeydd cydweithredol, ac mewn milfeddygfeydd preifat.

Yn ystod blwyddyn 4 neu 5 byddwch yn dod nôl i Aberystwyth i gyflawni cylchdro craidd yng Nghymru, sydd â phwyslais ar dda byw.

Pa addysgu ymarferol a chlinigol a gynhwysir ar y cwrs?

Efrydiau Allanol Hwsmonaeth Anifeiliaid (AHEMS):  Ymgymerir ag AHEMS yn ystod dwy flynedd gyntaf y rhaglen. Mae lleoliadau AHEMS wedi'u llunio i'ch cynorthwyo i gadarnhau'r hyn a ddysgoch am hwsmonaeth anifeiliaid, datblygu sgiliau trin anifeiliaid, a dysgu am ddiwydiannau anifeiliaid. Rhaid cwblhau 12 wythnos o AHEMS cyn cael mynediad i flwyddyn 3 y cwrs. Er mwyn cael gwell dealltwriaeth o anghenion y byd milfeddygol yng Nghymru, bydd o leiaf 6 wythnos o'r AHEMS yn cael eu cyflawni yng Nghymru.

Efrydiau Allanol Clinigol (ClinEMS):  Byddwch yn ymgymryd â lleoliadau ClinEMS ym mlynyddoedd tri, pedwar a phump y rhaglen BVSc (cyfanswm o 26 wythnos mewn lleoliadau). Er mwyn cael gwell dealltwriaeth ynglŷn â milfeddygfeydd yng Nghymru, bydd o leiaf 13 wythnos o'r ClinEMS yn cael eu cyflawni yng Nghymru.

Beth yw'r gofynion mynediad nodweddiadol?

AAA mewn tri phwnc Safon Uwch, i gynnwys Bioleg a Chemeg. 

Mae Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru yn dderbyniol ochr yn ochr â Safon Uwch mewn Bioleg a Chemeg.

Ar ben hyn, bydd ar ymgeiswyr angen gradd 7(A) mewn 5 TGAU, i gynnwys 7-7 mewn Gwyddoniaeth Gyfun/AA mewn Gwyddoniaeth (Dyfarniad Dwbl) neu Bioleg a Chemeg neu Gwyddoniaeth a Gwyddoniaeth Ychwanegol.  Bydd angen gradd 6 (B) o leiaf mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg.

I gael manylion am gymwysterau eraill a fyddai'n cael eu hystyried, e-bostiwch: aberbvsc@rvc.ac.uk 

Sut mae gwneud cais?

Gellir cyflwyno ceisiadau trwy UCAS o ddechrau mis Medi ymlaen. Bydd y cyfnod ymgeisio yn cau am 18:00 (Deyrnas Unedig) ar ddydd Llun 16 Hydref 2023.

Sylwch, wrth wneud cais am gyllid myfyrwyr, rhaid i chi ddewis y Coleg Milfeddygol Brenhinol (RVC) a bydd y cwrs hwn yn ymddangos yn y gwymplen.

Bydd pawb sy'n gwneud cais trwy UCAS hefyd yn gorfod cwblhau Ffurflen Atodol i Ymgeiswyr ar-lein erbyn 23:59 (Deyrnas Unedig) ar ddydd Gwener 20 Hydref 2023.

A fydd angen profiad gwaith?

I wneud cais am y cwrs Baglor Gwyddor Milfeddygaeth (BVSc) bydd angen profiad gwaith blaenorol arnoch, fydd yn golygu eich bod wedi datblygu sgiliau trin anifeiliaid ac wedi cael cipolwg ar waith milfeddygon.

Cyn gwneud cais, mae'n orfodol eich bod wedi cwblhau'r gofynion canlynol:

  • cyfanswm o 70 awr (e.e. 10 diwrnod gwaith llawn) o brofiad gwaith (cyflogedig neu wirfoddol) mewn un neu fwy milfeddygfa
  • Cyfanswm o 70 awr mewn un neu fwy o amgylcheddau gwaith anghlinigol gydag anifeiliaid byw (ni chyfrifir y cartref/busnes teuluol/perchen ar anifail anwes). Yn rhan o'r 70 awr o amgylchedd gwaith anghlinigol, rhaid cael o leiaf 35 awr yn gysylltiedig ag anifeiliaid fferm neu geffylau.

Rhaid i'r cyfuniad 140 awr gael eu cyflawni o fewn y cyfnod 18 mis yn union cyn y dyddiad cau i wneud y cais. Croesewir profiad cynharach ond ni fydd yn cyfrif tuag at yr amod 140 awr.

Rydym yn eich annog i feddwl yn greadigol am yr amgylcheddau gwaith a bydd gennym ddiddordeb i glywed am unrhyw brofiadau sydd wedi cynorthwyo i roi ichi ymwybyddiaeth o swyddogaeth milfeddyg yn y byd ehangach. Gall enghreifftiau o amgylcheddau gwaith anghlinigol gynnwys, ymhlith pethau eraill: cenel, cathdy, lloches anifeiliaid, fferm wledig neu drefol, stabl, siop anifeiliaid anwes, wyna, gofal dwys am dda byw, lladd-dy, labordy ymchwil anifeiliaid, parc bywyd gwyllt, sw, ac yn y blaen. Does dim angen cael profiad ymhob un o'r meysydd hyn.

NB: bydd angen i geirda fod ar gael cyn y cyfweliad; rydym yn argymell yn gryf ei gael wrth fynd ymlaen.

A fydd cyfweliad yn rhan o'r broses ymgeisio am y cwrs?

Rhaid i ymgeiswyr ar y rhestr fer ddod i gyfweliad os cânt eu gwahodd ac ni cheir derbyn cynnig heb ddod i gyfweliad. Cynhelir y cyfweliadau ym Mhrifysgol Aberystwyth (dyddiadau i'w cadarnhau).

Ar adeg y cyfweliad, bydd angen i'r ymgeiswyr ddod â'u pasbort, tystysgrif wreiddiol eu canlyniadau TGAU a (os ydynt wedi'u cwblhau) Safon Uwch, neu gymwysterau cyfwerth, a llythyrau geirda ar gyfer isafswm y gofynion profiad gwaith.

Faint yw'r ffioedd dysgu?

Mae'r ffioedd dysgu ar gyfer y BVSc ar gael yma.