Strategaeth 2030au

Ers dros ganrif a hanner, mae rhagoriaeth Prifysgol Aberystwyth mewn addysgu ac ymchwil wedi ysbrydoli cenedlaethau o bobl o bob cwr o'r byd i newid bywydau er gwell. 

Mae ein Strategaeth 2030au yn ailddatgan y genhadaeth greiddiol hon ac yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer ein dyfodol hirdymor.

Mae ein cenhadaeth yn disgrifio pwy ydyn ni a pham rydyn ni yma:

Wedi'i gwreiddio yng nghefn gwlad Cymru, yn ymfalchïo yn ei dwyieithrwydd a’i hagwedd fyd-eang, mae Prifysgol Aberystwyth yn ysbrydoli pobl i newid bywydau er gwell ymhob cwr o’r byd. 

Mae ein blaenoriaeth yn cydnabod nad yw addysgu, ymchwil, a chyfraniadau dinesig yn amcanion ynddynt eu hunain. Yn hytrach, dyma sut yr ydym yn cyflawni'r hyn a wnawn:

Meithrin gwybodaeth: Rydym yn meithrin ac yn rhannu'r syniadau a'r arbenigedd sy'n creu datblygiadau er gwell i bobl, ein planed a’n bywyd diwylliannol.

Adeiladu cymunedau: Rydym yn dod â phobl at ei gilydd yn y Brifysgol a’r tu hwnt i ni gael dysgu, y naill gan y llall, a datblygu dulliau o gefnogi ein gilydd.

Atgyfnerthu Cymru: Rydym yn meithrin Cymru sy’n ffyniannus ac yn estyn allan i’r byd, yn Aberystwyth a’r tu hwnt, ac yn gweithio i hyrwyddo egni’r Gymraeg.

Mae ein Cynlluniau Prifysgol yn amlinellu'r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud i feithrin sefydliad cynaliadwy, hyblyg, sy'n canolbwyntio ar y dyfodol:

Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr

Byddwn yn sicrhau bod pob myfyriwr yn cael cyfle teg beth bynnag fo'u cefndir, yn dysgu sgiliau sy'n arwain at swydd, ac yn astudio mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Cynyddwn y gyfran o’n myfyrwyr sy'n cael swydd ar lefel addas i raddedigion 1% bob blwyddyn.

Ymchwil ac Arloesi

Byddwn yn cynhyrchu ymchwil sy'n newid bywydau er gwell. Darparwn hyfforddiant a mentora i ddatblygu sgiliau ymchwil ein staff. Yn FfRhY 2029, rydym am i 80% o'n hymchwil gael ei asesu’n ymchwil 'sy'n arwain y byd' neu'n 'ardderchog yn rhyngwladol'.

Denu Myfyrwyr

Byddwn yn cynyddu nifer y myfyrwyr, ar y campws ac oddi arno, mewn modd fforddiadwy, a defnyddiwn ddata manwl i benderfynu ar y ffordd orau o farchnata ein cyrsiau. Ein nod yw cael ein rhestru ymhlith y 300 prifysgol orau yn y byd erbyn 2030.

Cyllid

Byddwn yn sicrhau bod y Brifysgol yn ariannol gadarn trwy ddeall yn union faint mae ein gweithgareddau yn costio a faint sy’n dod i mewn o bob gweithgaredd. Erbyn 2030, byddwn yn cyflawni 5%o warged ariannol bob blwyddyn.

Seilwaith

Byddwn yn lleihau’r maint o adeiladau a thir rydym yn berchen arnynt ac yn cyflwyno cynllun hirdymor i fuddsoddi yn ein hystadau ffisegol a digidol. Erbyn 2030, byddwn yn cyd-fynd yn fwyfwy â safonau'r sector o ran pa mor effeithlon rydym yn defnyddio lle yn y Brifysgol.

Ein Pobl

Rydym am i'n staff fod yn dîm medrus a brwd, yn gweithio mewn diwylliant cefnogol sy'n hwyluso datblygiad gyrfaol. Erbyn 2030, cynyddwn lefelau boddhad staff fel ein bod yn cyrraedd 75 ar y Mynegai Cyswllt Staff.

Yr Iaith Gymraeg

Byddwn yn arwain y sector ym maes addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gydweithio â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn hybu’r defnydd o'r Gymraeg bob dydd ym mhob rhan o’r campws. Erbyn 2030, cynyddwn nifer ein staff a'n myfyrwyr sy'n datblygu eu sgiliau Cymraeg 50%.

Sero Net a'r Amgylchedd

Byddwn yn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd i sicrhau ein bod yn brifysgol Sero Net erbyn 2030. Buddsoddwn mewn prosiectau i arbed ynni bob blwyddyn a byddwn yn cynhyrchu 25% o'n hynni ein hunain o ffynonellau glân erbyn 2030.

Tegwch, Amrywioldeb a Chynhwysiant

Byddwn yn meithrin cymuned lle y teimla pawb eu bod yn cael eu croesawu a'u gwerthfawrogi. Er mwyn sicrhau bod pawb yn ddiogel, byddwn yn cryfhau ein darpariaeth 'adrodd a chefnogi'. Cynyddwn dderbyniadau myfyrwyr o gymunedau ethnig lleiafrifol yn y DU 1% bob blwyddyn.

Rydym yn ymroddedig i fod yn sefydliad blaengar sy'n ymateb ac yn dathlu'r gwerthoedd sy'n llywio ymddygiad: 

Y darlun hirdymor: Wrth wneud penderfyniadau, y flaenoriaeth yw meddwl am yr hirdymor er mwyn bod yn gynaliadwy  o safbwynt ariannol ac amgylcheddol.

Hyblygrwydd: Rydym yn datblygu dulliau o weithio sy’n ein rhoi mewn sefyllfa i ymaddasu'n gyflym er mwyn manteisio i'r eithaf ar alwadau cyfnewidiol a chyfleoedd newydd.

Tegwch a chynhwysiant: Rydym yn croesawu, yn cefnogi ac yn parchu pobl a safbwyntiau gwahanol a gwahanol ffyrdd o fyw a bod yn y byd.

Gyda’n gilydd: Rydym yn cydweithio'n agos â'n gilydd i feithrin amgylchedd gwaith adeiladol a chynhyrchiol, lle mae pawb yn cefnogi ei gilydd, sy’n hybu pwysigrwydd ansawdd bywyd a boddhad yn ein gwaith proffesiynol.

Uniondeb: Rydym yn meithrin ymddiriedaeth drwy ymdrin â’n gilydd â pharch, trwy gyfathrebu’n glir ac amserol, a thrwy fod yn agored am sut rydym yn gwneud ein penderfyniadau.

Meithrin cysylltiadau: Gweithiwn yn gydweithredol y tu hwnt i'r Brifysgol i feithrin partneriaethau a fydd yn gweithio er budd y bobl a’r cymunedau sy’n rhan ohonynt.

Gwthio’r ffiniau: Rydym yn ein herio ein hunain i fynd y tu hwnt i'r hyn sy'n gyfforddus ac yn gyfarwydd mewn ffyrdd sy'n galluogi newid adeiladol ar sylfaen gwybodaeth gadarn.