Amdanom Ni

Mae’r Swyddfa Partneriaethau Academaidd yn ymroddedig i feithrin perthynas gref â phartneriaid, yng Ngwledydd Prydain ac yn rhyngwladol, sy’n rhannu’r un weledigaeth ac ethos â hi ynglŷn â dysgu o ansawdd uchel sydd wedi’i arwain gan ymchwil a phrofiad rhagorol i fyfyrwyr. Rydym yn gyfrifol am sicrhau ansawdd gweithgareddau partneriaethau cydweithrediadol, sy’n arwain yn rhannol neu’n gyfan gwbl at ddyfarniad Prifysgol Aberystwyth.