Swyddfa Cydymffurfiaeth UKVI - Amdanom ni

Beth yw ein swyddogaeth ni?

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ‘noddwr’ cofrestredig yn y System Fewnfudo Seiliedig ar Bwyntiau (PBS). Mae hwn yn ein galluogi ni i ddenu a chefnogi myfyrwyr sy’n ddinasyddion gwledydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig/Gweriniaeth Iwerddon. Mae’r Swyddfa Gartref yn gosod dyletswyddau ar fyfyrwyr a phrifysgolion i gydymffurfio â rheolau mewnfudo.

Helpu i amddiffyn myfyrwyr â fisâu

Nod y swyddfa cydymffurfiaeth UKVI yw cefnogi myfyrwyr a’u galluogi i gadw eu Fisâu Myfyrwyr drwy sicrhau y dilynir rheolau’r fisa. Nid yw’r canllawiau ar y tudalennau gwe hyn yn ymwneud â phob sefyllfa neu reol UKVI; dylai myfyrwyr gyfeirio at y dogfennau a gyhoeddwyd neu y cyfeiriwyd atynt ar y tudalennau hyn am ragor o fanylion.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, anfonwch ebost i compliance@aber.ac.uk.

Sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau UKVI ledled y Brifysgol

Derbyn a Denu Myfyrwyr

Mae’r Swyddfa Cydymffurfiaeth UKVI yn cydweithio’n agos ag adrannau ledled y brifysgol er mwyn sicrhau y dilynir pob arweiniad UKVI a bod staff yn ymwybodol o’r dyletswyddau sydd gennym ni fel noddwr fisâu. Rydym yn cydweithio’n agos â’r timau derbyn er mwyn darparu canllawiau a chyngor am geisiadau a’r gofynion sydd eu hangen ar gyfer pennu CAS i ymgeiswyr.

Cadw Cofnodion

Rydym yn cadw cofnodion myfyrwyr ac yn sicrhau bod gennym wrth law bob dogfen sy’n ofynnol gan UKVI, gan gynnwys, ymhlith pethau eraill:

  • copi o basbort cyfredol y myfyriwr
  • copi o’u fisa gyfredol
  • prawf o ddyddiad cyrraedd y Deyrnas Unedig (os yw’n berthnasol)
  • copïau o unrhyw fisâu blaenorol i’r Deyrnas Unedig (os yw’n berthnasol)
  • copïau o drawsgrifiadau / tystysgrifau academaidd (os yw’n berthnasol)
  • copi o dystiolaeth hyfedredd Iaith Saesneg (os yw’n berthnasol)
  • copi o dystysgrif ATAS (os yw’n berthnasol)

 

Dyletswyddau hysbysu

Mae rhaid i’r brifysgol hysbysu UKVI erbyn 10 diwrnod gwaith ar ôl cael gwybod am newid mewn sefyllfa myfyriwr. Dyma’r brif ddyletswyddau hysbysu:

  • Newid lleoliad astudio (mae myfyriwr yn treulio amser yn astudio tramor), er enghraifft cynlluniau cyfnewid cymeradwy.
  • Myfyriwr PhD sy’n gwneud gwaith maes tramor
  • Myfyrwyr sy’n dychwelyd heb ailgofrestru ar gyfer eu cwrs.
  • Myfyrwyr newydd nad ydynt yn cofrestru
  • Myfyriwr sy’n newid y cwrs y mae’n ei astudio
  • Gwrthod fisa
  • Myfyrwyr sy’n dewis tynnu’n ôl o’u hastudiaethau yn barhaol
  • Myfyrwyr sy’n dewis tynnu’n ôl o’u hastudiaethau dros dro
  • Myfyrwyr sy’n cael eu diarddel o’r brifysgol 
  • Myfyrwyr y newidir eu categori mewnfudo ac nad oes arnynt angen fisa myfyriwr mwyach.
  • Cyflawni cwrs astudio (QCF6 ac yn uwch) yn llwyddiannus os yw’r myfyriwr wedi:
  1. a) cyflawni eu cwrs yn llwyddiannus; 
    b) bodloni’r gofyniadau ar gyfer y cymhwyster; 
    c) bodloni'r gofyniadau ar gyfer astudio yn y Deyrnas Unedig.

 

Bodloni’r Asesiad Cydymffurfiaeth Sylfaenol blynyddol

Mae UKVI yn mynnu bod pob noddwr yn monitro ei garfannau o fyfyrwyr ac yn sicrhau bod pob un o’r drothwyon isod yn cael eu cyflawni.

 

Ffocws

Trothwy 

Ystyr

Cofrestru

90%

Cyfradd gofrestru sy’n 90% o leiaf. O’r holl ddogfennau CAS a ddyrannwyd gan noddwr i fyfyrwyr sydd wedi cael caniatâd mynediad neu ganiatâd i aros (i astudio gyda’r noddwr hwnnw), bydd rhaid i o leiaf 90% fod wedi cofrestru cyn pen y cyfnod cofrestru.

Gwrthod Visa 

10%

Cyfradd gwrthod fisa sy’n llai na 10%

Cyfradd cwblhau’r cwrs

85%

Cyfradd cwblhau cwrs sy’n 85% o leiaf. Rhaid i o leiaf 85% o’r myfyrwyr a gefnogwyd drwy’r llwybrau Myfyriwr neu Fyfyriwr sy’n Blentyn sy’n cofrestru â’r noddwr gyflawni eu cyrsiau.

Mae’r tîm cydymffurfiaeth UKVI yn aml yn canolbwyntio ar liniaru risgiau a allai effeithio ar fodloni’r Asesiad Cydymffurfiaeth Sylfaenol blynyddol.