Gwiriadau Hawl i Astudio
Beth yw'r 'hawl i astudio'?
Mae'r 'hawl i astudio’ yn golygu bod gennych ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig (y DU) ac nid yw'r caniatâd hwn yn eich atal rhag astudio yn y DU, neu'n fwy penodol, ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Pam mae angen inni wirio hawl pobl i astudio?
Mae'r Swyddfa Gartref yn gofyn inni sicrhau bod gan bob myfyriwr sy'n astudio yn y Brifysgol hawl i astudio yn y DU drwy gydol eu cyfnod astudio. Os na wnawn ni hynny, ni fyddwn yn cyflawni ein dyletswyddau fel Noddwr Fisa Myfyrwyr, a gellid cymryd camau yn ein herbyn ni neu gallai ein Trwydded Noddwr Fisa Myfyrwyr gael ei thynnu'n ôl.
Ar bwy y mae angen gwiriad hawl i astudio?
Unrhyw un sy'n dymuno cofrestru i astudio cwrs o unrhyw hyd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Bydd gofyn i fyfyrwyr sydd eisoes wedi'u cofrestru ar gwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth ddangos rhagor o ddogfennau sy'n ymwneud â'u hawl i astudio os yw eu caniatâd presennol ar fin dod i ben.
Sut alla i brofi fod gen i'r hawl i astudio?
Os ydych chi'n ddinesydd o'r DU/Iwerddon, gallwch brofi bod gennych yr hawl i astudio yn y DU trwy ddarparu copi o'ch pasbort / tystysgrif geni / tystysgrif mabwysiadu / tystysgrif hawl i breswylio yn y DU. Efallai y bydd angen i chi ddarparu prawf o newid enw (fel arfer tystysgrif briodas neu dystysgrif Gweithred Newid Enw) os yw'r enw ar eich Cofnod Myfyriwr yn wahanol i'r enw ar y ddogfen rydych chi wedi'i darparu fel tystiolaeth o'ch hawl i astudio yn y DU.
Dinasyddion y tu allan i'r DU / Gweriniaeth Iwerddon
Os ydych wedi darparu prawf o statws fisa/mewnfudo (ac eithrio fisa Myfyriwr) yn ystod y broses ymgeisio, fel arfer ni fydd yn ofynnol i chi wneud hynny eto, oni bai bod y prawf hwnnw wedi dod i ben.
Sut / pryd y bydd angen ichi ddarparu'r dogfennau hawl i astudio?
Gwladolion y DU/ Iwerddon
Bydd gofyn ichi uwchlwytho eich dogfennau hawl i astudio cyn cyrraedd Aberystwyth yn rhan o'r broses 'rhoi ar waith'. Yn fuan ar ôl ichi roi eich cyfrif e-bost Prifysgol Aberystwyth ar waith, fe gewch gyfarwyddiadau er mwyn ichi uwchlwytho eich dogfen/dogfennau i dudalen uwchlwytho ddiogel.
Gwladolion o du allan i'r DU/ Iwerddon
Os ydych wedi derbyn CAS ac yn dal fisa byddwch yn cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn Gwiriad Rhag Gofrestru i Fyfyrwyr Rhyngwladol, lle gofynnir ichi ddarparu sawl dogfen wreiddiol.
A oes rhaid imi ddarparu dogfennau hawl i astudio?
Oes. Ni fydd hawl gennych gofrestru ar eich cwrs oni fyddwn wedi gwirio eich hawl i astudio.
Eich cyfrifoldeb chi fydd cynnal eich hawl i astudio (eich statws mewnfudo) os yw eich caniatâd i astudio yn y DU ar fin dod i ben, neu os yw eich amgylchiadau'n newid i'r graddau y bydd hyn yn effeithio ar eich statws mewnfudo.
Bydd y Brifysgol yn atal dros dro neu'n gwahardd unrhyw fyfyriwr nad oes ganddo hawl mwyach i astudio yn y DU.
Pa ddogfennau / tystiolaeth y mae'n rhaid imi eu darparu?
Mae'r tablau isod yn rhoi enghreifftiau o'r mathau mwyaf cyffredin o statws mewnfudo a fisâu, ac mae'n dweud pa ddogfennau y byddai'n rhaid ichi eu darparu i ddangos bod gennych hawl i astudio.
Nid yw hon yn rhestr gyflawn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â pha ddogfennau y dylech eu darparu, neu os ydych chi'n cael trafferth darparu'r ddogfennaeth ofynnol, e-bostiwch rtsstaff@aber.ac.uk am gymorth.
Sylwer, os yw'r enw ar eich Cofnod Myfyriwr yn wahanol i'r enw ar y ddogfen rydych chi wedi'i darparu fel tystiolaeth o'ch hawl i astudio yn y DU, bydd angen i chi ddarparu prawf o newid enw (fel arfer tystysgrif briodas neu dystysgrif Gweithred Newid Enw).
Gwladolion Prydeinig/Iwerddon
|
Cenedligrwydd |
Cyfyngiadau astudio |
Y dogfennau angenrheidiol |
|
Dinesydd Prydeinig/Gwyddelig |
Dim cyfyngiadau astudio |
Pasbort y DU / Gweriniaeth Iwerddon neu Dystysgrif geni neu fabwysiadu'r DU wedi'i roi yn y DU / yn Ynysoedd y Sianel / ar Ynys Manaw neu Iwerddon neu Dystysgrif cofrestru fel dinesydd Prydeinig neu dystysgrif dinasyddiaeth Brydeinig neu Tystysgrif hawl i fyw yn Y Deyrnas Unedig
|
Gwladolion o du allan i'r DU / Gweriniaeth Iwerddon
|
Categori Mewnfudo |
Cyfyngiadau astudio |
Y dogfennau angenrheidiol |
|
Fisa Myryrwyr - noddwyd gan Brifysgol Aberystwyth (CMRTYMH23) |
Dim cyfyngiadau astudio ar yr amod bod y myfyriwr yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ar y cwrs y rhoddwyd y Cadarnhad Derbyn i Astudio ar ei gyfer.
Mae'n bosib hefyd y caniateir astudiaethau atodol. |
Darparu cod cyfranddaliadau o View and prove your immigration status - GOV.UK (www.gov.uk) er mwyn i ni gael gwirio eich fisa digidol neu Brawf o gais newydd a gyflwynwyd gan ddefnyddio Cadarnhad Derbyn i Astudio wedi'i roi gan Brifysgol Aberystwyth - bydd angen ichi ddangos tystiolaeth y gwnaed y cais cyn i'ch fisa blaenorol ddod i ben.
|
| Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE |
Dim cyfyngiadau astudio |
Darparu cod cyfranddaliadau o View and prove your immigration status - GOV.UK (www.gov.uk) er mwyn i ni gael gwirio eich statws digidol Os ydych wedi rhoi tystiolaeth o’ch statws o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE fel rhan o’r broses derbyn, nid oes angen rhoi hyn eto. |
| Fisa Ymweld |
Dim cyfyngiadau astudio ar cysiau 6 mis o hyd |
Darparu cod cyfranddaliadau o View and prove your immigration status - GOV.UK (www.gov.uk) er mwyn i ni gael gwirio eich fisa ymweld digidol neu Stamp Fisa Ymweld yn eich Pasport neu Os ydych yn dod o un o’r wledydd sydd yn gyniatau chi i ddefnyddio e-gate rhaid i chi rhoi dystiolaeth o'r dyddiad y cyrhaeddoch yn y DU, e.e. cerdyn byrddio ar awyren
|
|
Fisa astudio tymor byr (Cyrsiau Iaith Saeneg yn unig) |
Dim cyfyngiad astudio ar gyfer cyrsiau sy'n para hyd at 11 |
Vignette (sydd â stamp dyddiad mynediad arno neu dystiolaeth arall o'r dyddiad y cyrhaeddoch yn y DU, e.e. cerdyn byrddio ar awyren)
ac i gyrsiau o 6 mis darparu cod cyfranddaliadau o View and prove your immigration status - GOV.UK (www.gov.uk) er mwyn i ni gael gwirio eich fisa digidol
|
|
System Pwyntiau (Fisa Gweithiwr Medrus a.y.y.b) |
Dim cyfyngiadau astudio ond, gan ddibynnu ar y math o fisa sydd genych, efallai y bydd disgwyl ichi astudio rhan-amser yn unig |
Darparu cod cyfranddaliadau o View and prove your immigration status - GOV.UK (www.gov.uk) er mwyn i ni gael gwirio eich fisa digidol neu Ceisiadau sy'n aros am benderfyniad: bydd angen inni weld tystiolaeth o'ch cais mewnfudo blaenorol, tystiolaeth eich bod wedi cyflwyno eich cais cyn i'ch caniatâd blaenorol ddod i ben, a thystiolaeth ddiweddar eich bod yn dal i aros am benderfyniad
|
|
Dibynyddion y System Seiliedig ar Bwyntiau |
Dim cyfyngiadau astudio |
Darparu cod cyfranddaliadau o View and prove your immigration status - GOV.UK (www.gov.uk) er mwyn i ni gael gwirio eich fisa digidol neu Geisiadau sy'n aros am benderfyniad: bydd angen inni weld tystiolaeth o'ch cais mewnfudo blaenorol, tystiolaeth eich bod wedi cyflwyno eich cais cyn i'ch caniatâd blaenorol ddod i ben, a thystiolaeth ddiweddar eich bod yn dal i aros am benderfyniad
|
|
Priod / Partner Sifil / Partner Dibriod Gwladolyn Prydeinig neu berson â statws sefydlog |
Dim cyfyngiadau astudio |
Darparu cod cyfranddaliadau o View and prove your immigration status - GOV.UK (www.gov.uk) er mwyn i ni gael gwirio eich fisa digidol neu Geisiadau sy'n aros am benderfyniad: bydd angen inni weld tystiolaeth o'ch cais mewnfudo blaenorol, tystiolaeth eich bod wedi cyflwyno eich cais cyn i'ch caniatâd blaenorol ddod i ben, a thystiolaeth ddiweddar eich bod yn dal i aros am benderfyniad |
|
Caniatâd Amhenodol i Aros neu Breswyliad Parhaol |
Dim cyfyngiadau astudio
Gallech golli'ch statws os ydych chi wedi bod y tu allan i'r DU am ddwy flynedd neu ragor yn ddi-dor ers ichi gael Caniatâd Amhenodol i Aros.
|
Darparu cod cyfranddaliadau o View and prove your immigration status - GOV.UK (www.gov.uk) er mwyn i ni gael gwirio eich fisa digidol neu Stamp mewn pasbort neu Lythyr sy'n cadarnhau bod gennych Ganiatâd Parhaol i Aros |
|
Lloches / Ffoaduriaid / Caniatâd yn ôl disgresiwn / Diogelwch dyngarol |
Dim cyfyngiadau astudio
|
Trwydded Breswylio Fiometrig neu Vignette neu Ddogfen Statws Mewnfudo neu Lythyr sy'n cadarnhau eich bod wedi cael caniatâd parhaol i aros |
|
Ceiswyr lloches |
Nid chaniateir ichi astudio fel rheol oni bai eich bod yn dal Cerdyn Cofrestru Cais, neu os yw eich Hysbysiad Mechnïaeth Fewnfudo yn nodi bod gennych ganiatâd i weithio ac i astudio. |
Cerdyn Cofrestru Cais |
Ceisiadau sy'n aros am benderfyniad ac apeliadau
Os oes gennych chi gais sy'n aros am benderfyniad dan unrhyw rai o'r categorïau mewnfudo uchod, neu, os ydych yn dal i aros am benderfyniad eich apêl yn erbyn penderfyniad y Swyddfa Gartref i wrthod cais dan unrhyw rai o'r categorïau mewnfudo uchod, efallai y bydd angen i'r Brifysgol gysylltu â'r Swyddfa Gartref i gadarnhau bod gennych hawl i astudio cyn y gallwch gofrestru ar eich cwrs. Byddwn yn gofyn ichi am eich caniatâd cyn inni gysylltu â'r Swyddfa Gartref. Bydd y caniatâd hwn yn eu galluogi nhw i rannu gwybodaeth amdanoch chi a'ch hanes / statws mewnfudo.
