12.2.4 Rhesymau dros Apelio

1. Rhaid i’r apêl fod yn seiliedig ar un neu ragor o’r rhesymau isod er mwyn cael ei hystyried a rhaid darparu tystiolaeth ategol nad oedd ar gael i’w chyflwyno i’r Bwrdd Arholi perthnasol wrth ystyried perfformiad mewn arholiadau, neu i’r Adran berthnasol wrth ystyried cynnydd academaidd y myfyriwr yn ôl y Rheoliad Academaidd ynghylch Cynnydd Academaidd:

(i) Amgylchiadau esgusodol eithriadol a gafodd effaith andwyol ar berfformiad academaidd y myfyriwr. Lle gallai’r myfyriwr fod wedi rhoi gwybod am yr amgylchiadau eithriadol cyn

(a) rhyddhau canlyniadau eu harholiadau
neu
(b) gwaharddiad

ni cheir cyflwyno’r amgylchiadau hynny’n sail dros apelio yn ddiweddarach.

(ii) Diffygion neu afreolaidd-dra yn y ffordd y cynhaliwyd yr asesiadau, y cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu’r cyngor a roddwyd, a allai fod wedi cael effaith anffafriol ar berfformiad y myfyriwr. Lle gallai’r myfyriwr fod wedi rhoi gwybod am yr amgylchiadau eithriadol cyn

(a) rhyddhau canlyniadau eu harholiadau
neu
(b) gwaharddiad

ni cheir cyflwyno’r amgylchiadau hynny’n sail dros apelio yn ddiweddarach.

(iii) Tystiolaeth bod yr oruchwyliaeth a ddarparwyd yn annigonol a bod rhesymau eithriadol pam na roddodd y myfyriwr wybod am hyn cyn i’r Bwrdd Arholi wneud ei benderfyniad. Lle y gallai’r myfyrwyr fod wedi darparu tystiolaeth bod yr oruchwyliaeth a ddarparwyd yn annigonol cyn

(a) cyfarfod y Bwrdd Arholi
neu
(b) derbyn hysbysiad ffurfiol o dan y Rheoliad Academaidd ynghylch Cynnydd Academaidd

ni cheir cyflwyno’r amgylchiadau hynny’n sail dros apelio yn ddiweddarach.

(iv) Tystiolaeth o ragfarn, neu o duedd, neu o asesu annigonol gan un neu ragor o’r arholwyr, neu dystiolaeth o ragfarn neu o duedd ar ran y sawl fu’n gweinyddu’r Rheoliad Academaidd ynghylch Cynnydd Academaidd. Lle gallai’r myfyriwr fod wedi darparu tystiolaeth ynghylch rhagfarn, tuedd, neu asesu annigonol cyn

(a) rhyddhau canlyniadau eu harholiadau
neu
(b) gwaharddiad

ni cheir cyflwyno’r amgylchiadau hynny’n sail dros apelio yn ddiweddarach.

2. Ni chaiff yr apêl ei hystyried oni all y myfyriwr ddarparu rhesymau da pam na roddwyd gwybod i’r adran academaidd yn gynt am y rhesymau dros apelio a/neu pam na chafodd y Bwrdd Arholi perthnasol wybod amdanynt.

3. Dim ond yn yr amgylchiadau mwyaf eithriadol (er enghraifft, pan nad oedd modd i’r myfyriwr ddatgelu’r amgylchiadau ymlaen llaw oherwydd cyflwr meddygol a oedd yn eu hatal rhag gwneud hynny) y caiff amgylchiadau esgusodol eithriadol (boed yn ymwneud â materion y Brifysgol, problemau personol neu feddygol neu unrhyw fater arall), nad ydynt wedi’u cyflwyno i adran academaidd y myfyriwr erbyn y dyddiad penodedig, eu hystyried yn rhesymau dros apelio.

4. Mae’r Brifysgol yn caniatáu cyflwyno amgylchiadau esgusodol a thystiolaeth ategol dan amodau cyfrinachol, ac o’r herwydd ni fydd y ffaith nad oedd myfyriwr am ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol fel rheol yn cael ei hystyried yn amgylchiad eithriadol. Byddai’n rhaid i fyfyrwyr gyflwyno tystiolaeth i ategu’r rheswm dros beidio â chyflwyno’r dystiolaeth hon cyn i’r Bwrdd Arholi perthnasol gwrdd, neu ar gais yr adran academaidd neu’r Gyfadran o dan y Rheoliad Academaidd ynghylch Cynnydd Academaidd. Lle na phennir rheswm da dros gyflwyno gwaith yn hwyr neu beidio â’i gyflwyno o gwbl, ni chaiff yr apêl ei hystyried ymhellach.

5. Law yn llaw ag unrhyw sail y mae’r myfyriwr am ei ddefnyddio’n rheswm dros apelio, rhaid cyflwyno tystiolaeth ategol ychwanegol sydd heb gael ei gyflwyno i’w ystyried eisoes ac sy’n dangos yn glir sut yr effeithiodd ar berfformiad. Rhaid bod y dyddiad pan oedd yr amgylchiad(au) yn effeithio ar y myfyriwr wedi’i nodi ar y dystiolaeth, neu, os oes dyddiad diweddarach arni, rhaid nodi’n glir fod y sawl a ardystiodd yr amgylchiadau mewn sefyllfa i’w cadarnhau ar yr adeg pan ddigwyddodd yr amgylchiadau.

6. Nid ystyrir yr amgylchiadau canlynol yn amgylchiadau arbennig ac ni chânt eu hystyried ar adeg yr apêl:

(i) problemau â chyfrifiaduron neu argraffu

(ii) diffyg adnoddau

(iii) salwch lle nad oes tystiolaeth feddygol ar gael

(iv) mwy nag un dyddiad cau ar gyfer cyflwyno asesiadau ar yr un diwrnod

(v) anallu i ateb cwestiwn neu gael trafferth â deunydd; gemau argyfwng, cynyrchiadau perfformio, teithiau astudio adrannol

(vi) gweithgareddau anacademaidd (e.e. hyfforddiant milwrol)

7. Ceir canllawiau ar amgylchiadau arbennig a thystiolaeth ddogfennol briodol ar https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/taught-schemes/

8. Caiff apeliadau nad ydynt yn bodloni’r meini prawf uchod eu gwrthod ac ni chânt eu hystyried gan y Panel Apêl Academaidd. Bydd y myfyriwr yn cael gwybod am hyn gan y Gofrestrfa Academaidd.

9. Bydd apeliadau sy’n seiliedig ar y canlynol yn cael eu gwrthod yn syth:

(i) apeliadau sy’n amau barn academaidd. At ddibenion y Weithdrefn hon, barn academaidd fydd penderfyniad staff academaidd am ansawdd y gwaith neu’r meini prawf a ddefnyddir i asesu’r gwaith. Drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys penodi staff, trefniadau cynefino a hyfforddi, marcio anhysbys a chymedroli mewnol ac allanol, mae’r Brifysgol yn sicrhau bod y farn academaidd yn gadarn. Anogir myfyrwyr i ofyn am adborth ar eu marciau gan y staff academaidd perthnasol.

(ii) apeliadau sy’n seiliedig ar ffactorau yr oedd y Brifysgol a’r/neu’r Bwrdd Arholi dan sylw eisoes yn gwybod amdanynt pan wnaed penderfyniad ynghylch perfformiad y myfyriwr.

(iii) apeliadau sy’n seiliedig ar siom neu anfodlonrwydd â’r canlyniadau. Dylai myfyrwyr sy’n amau bod gwall wedi digwydd o ran trawsgrifio’r marciau godi’r mater yn uniongyrchol ac yn ysgrifenedig â’u hadran academaidd yn y lle cyntaf.

(iv) apeliadau sy’n seiliedig ar fethiant y myfyriwr i ymgyfarwyddo â gofynion y cwrs ynghylch presenoldeb, cyflwyno gwaith a’r dulliau asesu.

(v) Ni fydd y Brifysgol yn ystyried apeliadau sy’n seiliedig ar wybodaeth neu amgylchiadau nad oedd y myfyrwyr wedi hysbysu’r adran amdanynt gan honni nad oeddynt yn gwybod bod angen iddynt roi gwybod am amgylchiadau arbennig; nad oeddynt yn credu ar y pryd y byddai’r amgylchiadau arbennig yn effeithio ar eu perfformiad; ac na wnaethant gyfeirio atynt ar y pryd oherwydd embaras a/neu swildod.