2.5 Y Llwybr Cymeradwyo Di-Weithrediaeth (SDF2 / SDF4)

1. Y llwybr 'Di-Weithrediaeth' yw’r drefn ar gyfer cynigion lle nad oes unrhyw oblygiadau o ran adnoddau ac felly nid oes angen cymeradwyaeth derfynol gan Grŵp Gweithredol y Brifysgol. Dylai cynigion a ystyrir trwy'r llwybr cymeradwyo di-weithrediaeth gynnwys:

(i) Darpariaeth newydd mewn maes sydd eisoes yn bodoli (yn seiliedig ar ddarpariaeth modiwl sydd eisoes yn bod) (SDF2)

(ii) Cyfuniadau Prif bwnc/Is-bwnc a chynlluniau Anrhydedd Cyfun newydd (SDF4): noder mai dim ond ar gyfer cyfuno dwy elfen prif bwnc, is-bwnc neu elfennau cyfun sydd eisoes yn bodoli ac sydd eisoes wedi’u cymeradwyo y dylid defnyddio’r llwybr hwn.  Dylai adrannau ddilyn y llwybr Darpariaeth Newydd mewn Maes sy’n bod Eisoes neu lwybr cymeradwyaeth y Weithrediaeth er mwyn creu elfennau prif bwnc, is-bwnc neu elfennau cyfun newydd.

2. Dylid trafod cynigion gyda Phennaeth yr Adran a Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran yn y lle cyntaf.

3. Cam 1: Y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) a’r Pennaeth Cynllunio yn cymeradwyo mewn egwyddo
Dylai Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran drafod y cynnig gyda'r Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad Y Myfyrwyr) a'r Pennaeth Cynllunio cyn i’r ddogfennaeth datblygu cynllun gael eu cwblhau.  Bydd y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) a’r Pennaeth Cynllunio’n  penderfynu a ddylid cymeradwyo’r cynnig mewn egwyddor ac yn mynd ymlaen i ddatblygu dogfennaeth y cynnig.

4. Cam 2: Datblygu ffurflen SDF a’r ddogfennaeth ategol
Ar ôl i'r cynnig gael ei gymeradwyo gan y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) a'r Pennaeth Cynllunio i fynd ymlaen am ystyriaeth academaidd, dylai'r adran fynd ymlaen i ddatblygu'r ffurflen SDF a gweddill dogfennaeth y cynnig:

(i) Blaenddalen pwyllgor

(ii) Manyleb(au) y rhaglen, gan gynnwys canlyniadau dysgu'r cynllun/modiwl wedi'u mapio yn ôl yr asesiadau (SDF9)

(iii) Ffurflenni cymeradwyo modiwlau newydd/diwygiedig, os yw'n briodol, neu ddolenni at fodiwlau presennol

5. Dylai adrannau ymgynghori â’r Adran Gynllunio, Marchnata a Denu Myfyrwyr, y Gwasanaethau Gwybodaeth, y Llyfrgell, y Swyddfa Amserlennu, Ystadau a Chyfleusterau (gan gynnwys y Swyddfa Llety) a'r Cofrestrydd Academaidd er mwyn gofyn am eu mewnbwn i ddogfennaeth y cynnig; bydd yn ofynnol i'r gwasanaethau hyn ddarparu datganiad byr o fewn y Ffurflen Datblygu Cynllun berthnasol. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer pob un o'r adrannau hyn yn y ffurflen SDF.  Ni fydd ffurflenni'n cael eu derbyn os yw’n amlwg mai’r adran sydd wedi llenwi’r rhannau hyn.  Mae'n hanfodol bod adrannau’r gwasanaethau canolog a nodwyd yn y ffurflenni SDF yn cael golwg ar y cynnig yn ystod y cam datblygu.  Os yw’r cynnig yn debygol o effeithio ar ddarpariaeth mewn pynciau eraill, dylai’r adran hefyd ymgynghori â’r adrannau eraill.

6. Cam 3: Ystyriaeth ar lefel yr adran a’r Gyfadran
Dylai Pwyllgor Dysgu ac Addysgu’r Adran a Phwyllgor Gwaith y Gyfadran ystyried y ffurflen SDF ar ôl iddi gael ei chwblhau yn llawn, gan gynnwys y ddogfennaeth ategol. Yna, dylid eu hanfon ymlaen at y Tîm Sicrhau Ansawdd (qaestaff@aber.ac.uk) i’w hystyried gan y Panel Craffu Academaidd sefydlog.

7. Cam 4: Ystyriaeth gan y Panel Craffu Academaidd
Bydd y Panel Craffu Academaidd yn rhoi ystyriaeth fanwl i’r cynnwys academaidd, dylunio a chyflwyno'r cwricwlwm, profiad y myfyrwyr, adnoddau dysgu, cefnogaeth, trefniadau gweinyddu a chymeradwyaeth derfynol y cynnig.  Mae'r dyddiadau a dyddiad cau derbyn papurau ar gyfer y Panel Craffu Academaidd i'w gweld yma: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/aqro-coms/panel-craffu-academaidd/.  Awgrymir bod cynigion yn cael eu cyflwyno i’r Tîm Sicrwydd Ansawdd cyn y dyddiad cau ffurfiol ar gyfer derbyn papurau er mwyn rhoi cyfle i’r Tîm adolygu dogfennaeth y cynnig ac i roi amser i ddatrys unrhyw broblemau cyn i'r Panel graffu ar y cynnig.