Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg

13. Wrth ddatblygu’r cwricwlwm, bydd adrannau academaidd yn cyfeirio at amcanion strategol y Brifysgol ac yn benodol cynllun/strategaeth cyfrwng Cymraeg presennol y Brifysgol. Gweler Polisïau a Strategaethau’r Iaith Gymraeg am fanylion pellach, yn cynnwys yr egwyddorion a’r mesurau llwyddiant mewn perthynas â’r ddarpariaeth academaidd: https://www.aber.ac.uk/cy/cgg/policies/.

14. Y Pwyllgor Ansawdd a Safonau, un o is-bwyllgorau’r Senedd, sy’n goruchwylio’r gwaith o ddarparu cynlluniau yn y Brifysgol. Y pwyllgor hwn sy’n gyfrifol am gadw golwg gyffredinol ar y cynlluniau newydd a’r cynlluniau sy’n cael eu gohirio neu eu dileu. Bydd cynigion am gynlluniau newydd yn cael eu hystyried gan Banel Craffu Academaidd sefydlog, sy’n adrodd i’r Pwyllgor Ansawdd a Safonau.

15. Yn y rhannau sy’n ymwneud â’r Llwybr Cymeradwyo ceir disgrifiad o’r drefn i gymeradwyo cynlluniau gradd a ddysgir a chynlluniau astudio eraill sy’n arwain at ddyfarniadau ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae’n berthnasol i gynigion am gynlluniau newydd. Cymeradwyir pob cynllun am gyfnod o bum mlynedd, ac ar ôl hynny rhaid iddynt fod yn destun adolygiad ac ail-ddilysu (Adran 2.12).

16. Cynlluniwyd y drefn gymeradwyo ar sail egwyddorion arweiniol Cod Ansawdd y DU, ac i gydymffurfio â’r arferion allweddol a amlinellir ynddo. Mae hyn er mwyn sicrhau’r Brifysgol bod yr adrannau academaidd, wrth ddatblygu cynlluniau newydd, wedi rhoi ystyriaeth gywir i’r canlynol:

(i) Cyferbwyntiau allanol, gan gynnwys datganiadau meincnodi pwnc perthnasol a'r Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch (FHEQ)

(ii) Cyngor gan arbenigwyr pwnc allanol (er enghraifft, yr arholwr allanol cyfredol neu aelodau o gorff cynghori allanol) a, lle bo'n briodol, gofynion Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoliadol (PSRB), a chyflogwyr

(iii) Pa mor gydnaws yw'r cynnig yng nghyd-destun y ddarpariaeth bresennol ac amcanion a chenadwri'r sefydliad?

(iv) Gofynion adnoddau, gan gynnwys staff, llyfrgell, TG, ac unrhyw adnoddau pwnc-benodol (e.e. cyfleusterau labordy)

(v) Lefel debygol y galw.

17. Os yw adrannau academaidd yn bwriadu cyflwyno cynllun astudio newydd, neu wneud newidiadau sylweddol i gynllun, rhaid caniatáu digon o amser ar gyfer denu myfyrwyr a hysbysebu.