Polisïau a Strategaethau’r Iaith Gymraeg
Strategaeth 2030au – Cynllun y Gymraeg
Mae’r Brifysgol wedi lansio ei Strategaeth 2030au newydd. Un o brif flaenoriaethau’r strategaeth yw Atgyfnerthu Cymru - ein hymrwymiad i feithrin Cymru sy’n ffyniannus ac sy’n estyn allan i’r byd yn Aberystwyth a’r tu hwnt ac sy’n gweithio i hyrwyddo egni’r Gymraeg.
I gefnogi gweithredu’r strategaeth, mae ein Cynlluniau Prifysgol yn amlinellu'r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud i feithrin sefydliad cynaliadwy, hyblyg, sy'n canolbwyntio ar y dyfodol.
Drwy Gynllun y Gymraeg, byddwn yn arwain y sector ym maes addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gydweithio â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn hybu’r defnydd o'r Gymraeg bob dydd ym mhob rhan o’r campws. Erbyn 2030, cynyddwn nifer ein staff a'n myfyrwyr sy'n datblygu eu sgiliau Cymraeg 50%.
Polisi Defnydd Mewnol o’r Gymraeg
Diben y Polisi Defnydd Mewnol o'r Gymraeg yw adeiladu ar draddodiad clodwiw y Brifysgol o gefnogi dwyieithrwydd yn y gweithle, a’r ymrwymiadau hyn yn y Cynllun Strategol, gan sicrhau ar yr un pryd ein bod yn cydymffurfio â gofynion y Safonau Iaith Gymraeg a ddaeth i rym ar y 1af o fis Ebrill 2018.
Dyfarnu Grantiau a Chymorth Ariannol - Polisi a Gweithdrefn ar gyfer ystyried y Gymraeg
Yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg (Safon 100) mae’r Brifysgol wedi cymeradwyo polisi a gweithdrefn newydd (Dyfarnu Grantiau a Chymorth Ariannol - Polisi a Gweithdrefn ar gyfer ystyried y Gymraeg) er mwyn asesu effaith grantiau a chymorth ariannol ar y Gymraeg. Disgwylir i Adrannau sy’n gyfrifol am ddyfarnu grantiau neu gymorth ariannol gwblhau asesiad ardrawiad effaith ar y Gymraeg mewn ymgynghoriad â Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg. Bydd yr asesiadau hyn yn gyfle i adnabod cyfleoedd o fewn cynlluniau grantiau/cymorth ariannol i sicrhau cydraddoldeb i’r Gymraeg ac i gynyddu effeithiau positif i’r Gymraeg.