Marchnata’r cynllun

15. Cyhoeddir enghraifft o'r amserlen ar gyfer marchnata a chymeradwyo (cylch cynllunio dwy flynedd) ar-lein: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/dev-review/. Os gwneir cynnig am gynllun newydd nad yw'n unol â'r cylch dwy flynedd, bydd y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) yn penderfynu pa mor ymarferol fyddai cyflwyno'r cynllun ynghynt.

16. Caiff y cynllun ei hysbysebu fel un sy’n 'amodol ar gael ei gymeradwyo' ym mhrosbectws ffurfiol nesaf y Brifysgol yn dilyn cymeradwyaeth y Panel Craffu Academaidd. Ni cheir hysbysebu cynlluniau ar UCAS nac ar-lein tan i'r drefn gymeradwyo gael ei chwblhau yn ei chrynswth, oni bai bod yr adran wedi cyflwyno achos llwyddiannus i gael hysbysebu'r cynllun 'yn amodol ar ei gymeradwyo' mewn deunydd print ac ar-lein yn ogystal â phrosbectws ffurfiol y Brifysgol. Bydd tîm Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd yn rhoi gwybod i'r adran(nau) sy’n cynnig y cynllun ac i adrannau’r gwasanaethau perthnasol.

17. Bydd y cymal ‘yn amodol ar gael ei gymeradwyo’ yn cael ei ddileu a bydd y cynllun yn cael ei hysbysebu ar-lein ac ar dudalennau chwilio am gyrsiau, wedi iddo gwblhau'r broses gymeradwyo ar ei hyd. Bydd tîm Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd yn rhoi gwybod i'r adran(nau) sy’n cynnig y cynllun ac i adrannau’r gwasanaethau perthnasol.