7.2 Cyflwyno a Hyfforddi

1. Wrth iddynt gael eu derbyn, cyfeirir pob myfyriwr ymchwil uwchraddedig at y Canllawiau i Fyfyrwyr Ymchwil Uwchraddedig ar wefan yr Academi Ddoethurol, sy’n nodi mewn manylder, ymhlith pethau eraill, rôl y myfyriwr a’r arolygwr.

2. Ceir hefyd ar dudalennau gwe yr Academi Ddoethurol ganllawiau pellach ynghylch cyfnod cyflwyno myfyrwyr ymchwil, a Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr y Brifysgol.