7.3 Arolygu Traethodau Ymchwil

1. Polisi’r Brifysgol yw y bydd gan bob myfyriwr o leiaf un prif arolygwr, a fydd yn rhan o dîm arolygu. Rhaid i o leiaf ddau aelod o staff fod yn rhan o arolygaeth pob myfyriwr ymchwil. Ceir rhagor o arweiniad ar arolygu ar y cyd, y meini prawf ar gyfer penodi arolygwyr, cyfrifoldebau’r prif arolygwr a’r ail arolygwr, a’r llwyth arolygu arferol, yn adran 4 y Llawlyfr ar gyfer Arolygwyr Uwchraddedigion Ymchwil, sydd ar gael ar-lein a chan yr Academi Ddoethurol.

2. Darperir hyfforddiant rheolaidd i arolygwyr gan yr Academi Ddoethurol, trwy gyfrwng y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd.