7.4 Traethodau PhD mewn Ffurf amgen

1. Mae’r Ffurf Amgen yn caniatáu i fyfyriwr doethurol gyflwyno deunydd ar ffurf sy’n addas i’w gyhoeddi mewn cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid yn hytrach nag ar ffurf traethawd ymchwil traddodiadol. Ar wahân i’r ffaith ei fod yn cynnwys deunyddiau o’r fath, mae’r traethawd ymchwil ar Ffurf Amgen yn cydymffurfio â’r un safon ac yn cael ei reoli gan yr un rheoliadau â’r traethawd ymchwil PhD traddodiadol. Ceir gwybodaeth fanwl yn y Rheoliadau ar gyfer Gradd Doethur mewn Athroniaeth.

2. Rhaid i fyfyrwyr PhD llawn-amser a rhan-amser sydd eisiau cyflwyno eu traethawd ymchwil ar Ffurf Amgen gyflwyno cais cyn diwedd ail flwyddyn eu cofrestriad (LlA) neu’r bedwaredd flwyddyn (RhA). Sylwer nad yw’r opsiwn hwn ar gael i fyfyrwyr MPhil.

3. Dylai myfyrwyr a chanddynt ddiddordeb yn hyn holi eu harolygwyr yn gynnar yn eu hymchwil os teimlant y gallai eu cynnyrch fod yn addas ar gyfer y Ffurf Amgen. Os oes arnynt eisiau gwneud cais ffurfiol, dylai myfyrwyr lenwi’r ffurflen PhD ar Ffurf Amgen a’i chyflwyno i’w Hathrofa. Bydd Pwyllgor Monitro Ymchwil yr Athrofa yn penderfynu a yw cyflwyniad ar Ffurf Amgen yn addas ac yn rhoi gwybod am hyn i gyfarfod Monitro nesaf Ysgol y Graddedigion. Os bydd y cais yn cael ei gymeradwyo, dylid anfon y ffurflen at y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion, a fydd yn nodi hyn ar gofnod y myfyriwr. Os nad yw’r cais yn cael ei dderbyn, bydd yr Athrofa’n esbonio’r penderfyniad wrth y myfyriwr.