Rheoliadau ar gyfer Gradd Doethur mewn Athroniaeth (Cymeradwywyd i fyfyrwyr a dderbynnir cyn Medi 2023)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rheoli dyfarnu gradd Doethur mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, sef y Brifysgol o hyn allan.

Gall y Brifysgol ddyfarnu gradd Doethur mewn Athroniaeth i gydnabod cwblhau’n llwyddiannus gynllun o astudio pellach ac ymchwil y bernir bod ei ganlyniadau yn gyfraniad gwreiddiol i ddysg ac yn dystiolaeth o astudio systematig a’r gallu i gysylltu canlyniadau’r cyfryw astudio â’r corff cyffredinol o wybodaeth yn y pwnc.

Bydd y cyfeiriadau isod at y traethawd ymchwil yn cwmpasu cyflwyniadau ar ffurfiau amgen (gweler rheoliadau 18–28 isod) a chyflwyniadau sy’n seiliedig ar ymarfer yn y celfyddydau creadigol (gweler rheoliad 17).

Wrth farnu teilyngdod traethawd ymchwil a gyflwynir mewn ymgeisyddiaeth am radd PhD, bydd yr arholwyr yn cadw mewn cof safon ac ystod y gwaith y mae’n rhesymol disgwyl i fyfyriwr galluog a dygn ei gyflwyno ar ôl cyfnod o ddwy neu dair blynedd (fel y bo’n briodol) o astudio llawn-amser, neu’r hyn sy’n cyfateb yn rhan-amser.

Ar ôl cwblhau Gradd Doethur, bydd graddedigion wedi cyflawni Lefel D, fel y’i diffinnir gan Fframwaith yr ASA ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Ni ellir cyflwyno gradd Doethur mewn Athroniaeth honoris causa.

Dulliau Astudio

1. Gall ymgeisydd astudio ar gyfer y radd drwy gyfrwng un o’r dulliau canlynol:

A drwy wneud ymchwil lawn-amser yn y Brifysgol;
B drwy wneud ymchwil lawn-amser mewn man cyflogaeth allanol;
C drwy wneud ymchwil ran-amser yn y Brifysgol;
D drwy wneud ymchwil ran-amser yn allanol;
E drwy wneud ymchwil ran-amser yn y Brifysgol fel aelod llawn-amser neu ran-amser o’r staff.

Dylai myfyrwyr sy'n gwneud cais o dan adran B fod yn gweithio mewn canolfan ymcwhil allanol neu sefydliad tebyg sydd â'r staff a'r adnoddau i gynnal a goruchwylio'r prosiect ymchwil ond nad oes ganddynt bwerau dyfarnu graddau.  Mae'n rhaid i ymgweiswyr ddarparu:

  • datganiad o gefnogaeth gan y cyflogwr yn cadarnhau y byddant yn canitáu i'r myfyriwr weithio'n llawn-amser ar y prosiect ymchwil ac y byddant yn darparu'r adnoddau angenrheidiol.
  • cadarnhad o'r trefniadau goruchwylio gan gynnwys CV y goruchwyliwr lleol.
  • cadarnhad fod gan yr ymgeisydd, neu y gallai gael, y sgiliau ymchwil angenrheidiol heb fynychu hyfforddiant ymchwil PA.
  • cytundeb ar unrhyw hyfforddiant ymchwil PA fydd ei angen.

2. Mae’n bosibl, mewn achosion addas, i drosglwyddo o un dull o’r rheoliadau i un arall, e.e. o lawn-amser (Dull A) i ran-amser (Dull C) ac fel arall. Mewn achosion o’r fath, bydd y Brifysgol yn pennu isafswm cyfnod astudio diwygiedig ac yn gosod y dyddiad cynharaf ar gyfer cyflwyno’r traethawd ymchwil.

3. Yn achos aelodau o staff rhan-amser, cyfyngir ymgeisyddiaeth i aelodau o staff dan gontract a chanddynt radd, neu gymhwyster cyfatebol, sydd â chontract rheolaidd o gyflogaeth am gyflog sy’n cyfateb i o leiaf draean o gyflog aelod llawn-amser yn y categorïau staff priodol.

Cymhwystra

4. Rhaid i ymgeisydd am radd PhD feddu ar un o’r cymwysterau canlynol cyn dechrau ar ei ymchwil neu ei hymchwil:

(a) gradd gychwynnol o Brifysgol Aberystwyth;
(b) gradd gychwynnol o Brifysgol arall a gymeradwywyd at y diben hwn;
(c) cymhwyster nad yw’n radd y mae’r Brifysgol wedi barnu ei fod yn cyfateb i raddio.

Rhaid i ddarpar ymgeisydd a chanddo/a chanddi eisoes radd ddoethurol allu dangos bod y cynllun PhD mewn maes ymchwil gwahanol i’r un y dyfarnwyd y PhD (neu radd ddoethurol arall) amdano.

5. Beth bynnag fo cymwysterau ymgeisydd, rhaid i’r Brifysgol fodloni ei hun bod ymgeisydd o’r safon academaidd sy’n ofynnol er mwyn cwblhau’r cynllun ymchwil arfaethedig.

6. Mae’n ofynnol i’r holl ymgeiswyr fatricwleiddio gyda’r Brifysgol. Mae’r Brifysgol yn darparu rhestr o safonau a gymeradwywyd a fydd yn caniatáu mynediad i ymgeisyddiaeth am un o raddau uwch y Brifysgol. Cynhwysir y rhestr hon yn y “Rheoliadau ar gyfer Cymeradwyo Cymwysterau a/neu Brofiad Perthnasol ar gyfer Derbyn i Raddau, Diplomâu a Thystysgrifau Uwch Prifysgol Aberystwyth”.

Yn achos ymgeisydd nad oes ganddo/ganddi gymhwyster mynediad cydnabyddedig, rhaid i’r Adran dan sylw wneud argymhelliad arbennig ar gyfer ei d(d)erbyn i’r Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion a rhaid i’r gymeradwyaeth gael ei chadarnhau cyn bod cynllun astudio arfaethedig yr ymgeisydd yn cychwyn.

Cyfnodau Cofrestru a Threfniadau Prawf

7. Rhaid i’r ymgeisydd ymrestru yn y Brifysgol, talu’r ffi briodol a bennir a dilyn y cynllun ymchwil am yr isafswm cyfnod a ddiffinnir isod:

Dulliau A a B:

Isafswm cyfnod: tair blynedd, y gyntaf ohonynt yn cael ei hystyried yn flwyddyn brawf

Dulliau C a D:

Isafswm cyfnod: pum mlynedd, y ddwy flynedd gyntaf ohonynt yn cael eu hystyried yn flynyddoedd prawf

Dull E:

Isafswm cyfnod: tair blynedd, y gyntaf ohonynt yn cael ei hystyried yn flwyddyn brawf

Serch yr uchod, gall yr Adran ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd wneud ymchwil am gyfnod hwy na’r cyfnodau isafswm hyn.

8. Er mwyn caniatáu i’r arholiad gael ei gwblhau, caniateir i ymgeisydd gyflwyno traethawd ymchwil chwe mis cyn i’r cynllun astudio a gymeradwywyd ddod i ben. Er hynny, bydd ffioedd dysgu yn daladwy am y cyfnod cofrestru llawn. Pan fydd cyfnod ychwanegol o ymchwil yn ofynnol gan yr ymgeisydd (fel y disgrifir dan baragraff 7 uchod) bydd dyddiad cyflwyno cynharaf yr ymgeisydd yn cael ei ymestyn gan gyfnod o amser sy’n gyfartal o ran hyd â hyd y cyfnod astudio ychwanegol.

9. Yn ystod y flwyddyn/cyfnod prawf, disgwylir i’r ymgeisydd ddangos ei (g)allu i fwrw ymlaen ag ymchwil bellach.

10. Serch paragraffau 6 ac 8 uchod, gall ymgeisydd gael ei (h)eithrio rhag y flwyddyn/cyfnod prawf os ydyw ef/hi:

(a) yn meddu ar radd Meistr uwchraddedig o Brifysgol a gymeradwywyd, a honno wedi ei hennill drwy ymchwil neu uwch-astudiaethau sydd ym marn yr adran/Athrofa yn gefndir academaidd digonol i ganiatáu i’r ymchwil arfaethedig gael ei chwblhau o fewn dwy flynedd.
(b) wedi cwblhau o leiaf flwyddyn yn llawn-amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser o waith uwchraddedig o dan oruchwyliaeth yn yr un ddisgyblaeth academaidd â’r cynllun ymchwil PhD arfaethedig er boddhad y Brifysgol ar argymhelliad yr adran/Athrofa briodol.
(c) wedi cyflwyno gwaith ymchwil uwchraddedig o safon sy’n cyfateb yn fras i safon gradd Meistr ac wedi ei gymeradwyo gan y Brifysgol ar argymhelliad yr Adran/Athrofa briodol.
(d) wedi cael o leiaf flwyddyn o brofiad perthnasol ers graddio, a chymeradwyaeth o’r fath i’w rhoi gan y Brifysgol ar argymhelliad yr Adran/Athrofa briodol.

Rhestrir y Prifysgolion hynny y mae eu graddau Meistr wedi’u cymeradwyo at ddibenion eithrio o’r cyfnod prawf yn ‘Rheoliadau ar gyfer Cymeradwyo Cymwysterau a/neu Brofiad Perthnasol ar gyfer Derbyn i Raddau, Diplomâu a Thystysgrifau Uwch Prifysgol Aberystwyth’.

Ni ddyfernir unrhyw eithriadau eraill.

Terfynau Amser

11. Daw ymgeisyddiaeth i ben os na chyflwynir traethawd ymchwil, yn y ffurf a’r modd a bennwyd, erbyn y terfyn amser a restrir isod:

Dulliau A a B:

Yn achos ymgeisyddiaethau tair blynedd (yr ystyrir y flwyddyn gyntaf ohonynt yn flwyddyn brawf), pedair blynedd o ddechrau swyddogol cyfnod astudio’r ymgeisydd.
Yn achos ymgeisyddiaethau dwy flynedd (lle mae’r ymgeisydd wedi ei eithrio rhag y flwyddyn brawf), tair blynedd o ddechrau swyddogol cyfnod astudio’r ymgeisydd.

Dulliau C a D:

Yn achos ymgeisyddiaethau pum mlynedd (yr ystyrir y ddwy flynedd gyntaf ohonynt yn gyfnod prawf), saith mlynedd o ddechrau swyddogol cyfnod astudio’r ymgeisydd.
Yn achos ymgeisyddiaethau tair blynedd (lle mae’r ymgeisydd wedi ei eithrio rhag y cyfnod prawf), pum mlynedd o ddechrau swyddogol cyfnod astudio’r ymgeisydd.

Dull E:

Ym mhob achos, saith mlynedd o ddechrau swyddogol cyfnod astudio’r ymgeisydd.

Gall y terfynau amser uchod gael eu hymestyn gan y Brifysgol, ond dim ond mewn achosion eithriadol ac yn unol â’r meini prawf a osodwyd yn y Rheoliadau ar gyfer Cyflwyno Traethodau Ymchwil am Raddau Ymchwil a’u Harholi. Rhaid i adran yr ymgeisydd gyflwyno cais rhesymedig, wedi’i gefnogi â thystiolaeth annibynnol addas, i’r Brifysgol ei ystyried.

D.S. I fyfyrwyr a dderbyniwyd o fis Medi 2018, mae’r Cyfyngiadau Amser canlynol ar gyfer Cwblhau, gan gynnwys unrhyw gyfnodau o dynnu’n ôl dros dro ac estyniadau a gymeradwywyd gan Bennaeth Ysgol y Graddedigion, yn berthnasol:

O’r dyddiad cofrestru cychwynnol tan eich bod yn cyflwyno’r traethawd ymchwil i’w arholi am y tro cyntaf:

PhD/PhDFA amser-llawn: chwe blynedd
PhD/PhDFA rhan-amser: naw mlynedd

Gellir cael estyniadau i’r cyfyngiadau hyn gan y Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil) o dan yr amod:

1. Bod tystiolaeth o amgylchiadau arbennig yn cael ei chyflwyno
2. Bod adran y myfyriwr yn cadarnhau bod y prosiect ymchwil yn parhau i fod yn gyfredol ac yn ddichonadwy a bod y myfyriwr yn gallu cwblhau’r prosiect o fewn cyfnod yr estyniad.

Goruchwylio

12. Rhaid i’r Brifysgol sicrhau bod ymgeiswyr yn cael eu goruchwylio, yn rheolaidd ac yn barhaus, yn unol â’i gweithdrefnau cyffredinol ar gyfer goruchwylio uwchraddedigion.

13. Ar gyfer pob ymgeisyddiaeth, rhaid i’r Brifysgol gymeradwyo tîm o oruchwylwyr yn cynnwys o leiaf un prif oruchwylydd ac ail oruchwylydd, a enwebir gan Adran yr ymgeisydd.

• Fel arfer bydd y prif oruchwylydd yn aelod llawn-amser o staff academaidd y Brifysgol;
• Fel arfer, bydd yr ail oruchwylydd yn aelod llawn-amser o staff academaidd y Brifysgol neu sefydliad neu gorff sy’n cydweithredu â hi.

Bydd y Brifysgol yn sicrhau bod y gweithdrefnau ar gyfer goruchwylio uwchraddedigion ar gael i fyfyrwyr a goruchwylwyr trwy gyfrwng y Codau Ymarfer a’r Llawlyfr Goruchwylwyr.

Hyd y Traethawd Ymchwil, a’i Gyflwyno

14. Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau ei (h)ymchwil drwy gyflwyno traethawd ymchwil (100,000 o eiriau o hyd ar y mwyaf, heb gynnwys atodiadau a chyfeiriadau) sy’n ymgorffori dulliau a chanlyniadau’r ymchwil. Bydd angen i Fwrdd Arholi wedi ei gyfansoddi’n briodol gynnal arholiad llafar ar gyfer ymgeisydd PhD sy’n cyflwyno traethawd ymchwil i’w arholi. Er hynny, fe ellir hepgor y gofyniad hwn ar ddisgresiwn y Bwrdd Arholi, wrth arholi traethawd ymchwil sydd wedi ei ailgyflwyno pan mae’r arholwyr yn argymell pasio’n glir heb newidiadau, neu gyda chywiriadau neu newidiadau mân iawn yn unig. Dan amgylchiadau eraill eithriadol, gellir hepgor arholiad llafar ar gyfer traethawd sydd wedi’i ailgyflwyno gyda chymeradwyaeth y Bwrdd Arholi a Phennaeth Ysgol y Graddedigion.

15. Rhaid i ymgeiswyr lofnodi datganiad yn ardystio na dderbyniwyd y gwaith a gyflwynir yn ei hanfod am unrhyw radd neu ddyfarniad, ac nad yw’n cael ei gyflwyno ar yr un pryd mewn ymgeisyddiaeth am unrhyw radd neu ddyfarniad arall. Rhaid cynnwys y datganiad, wedi ei lofnodi, ym mhob copi o’r gweithiau a gyflwynir i’w harholi.

16. Rhaid i’r Brifysgol sicrhau bod ffurf cyflwyno ac arholi’r traethawd ymchwil yn cydymffurfio â Rheoliadau’r Brifysgol ar gyfer Cyflwyno Traethodau Ymchwil a’u Harholi.

Darpariaethau arbennig mewn perthynas â Chynlluniau yn y Celfyddydau Creadigol

17. Yn achos ymgeiswyr sy’n dilyn cynlluniau gradd ymchwil cymeradwyedig sy’n syrthio o fewn maes pwnc Celfyddydau Creadigol a Pherfformiadol y Brifysgol, gall y traethawd ymchwil fod ar un neu ragor o’r ffurfiau canlynol: arteffact, sgôr, testun, portffolio o weithiau gwreiddiol, perfformiad neu arddangosfa. Dylid cyflwyno ar y cyd â’r gwaith sylwadaeth sy’n gosod y gwaith yn ei gyd-destun academaidd, ynghyd ag unrhyw eitemau eraill a all fod yn ofynnol (e.e. catalog, neu recordiad sain neu weledol).

Ym mhob achos, bydd y cyflwyniad a’r sylwadaeth ysgrifenedig wedi’u rhwymo, a bydd yr eitemau eraill sy’n ofynnol (e.e. tâp neu gyfrwng arall) wedi’u cynnwys mewn cynhwysydd sy’n addas i’w storio ar silff llyfrgell ac arno, ar y meingefn, yr un wybodaeth â’r hyn sy’n ofynnol ar gyfer traethodau estynedig/traethodau ymchwil. Dylid gosod y wybodaeth hon fel ei bod yn rhwydd i’w darllen ar y cynhwysydd yn y safle lle caiff ei storio.

Cyflwyno ar ffurf amgen

18. Mae’r ffurf amgen yn caniatáu i ymgeisydd doethurol ymgorffori deunydd sydd mewn fformat addas i’w gyflwyno ar gyfer ei gyhoeddi mewn cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid. Ar wahân i’r ffaith ei fod yn cynnwys deunyddiau o’r fath, rhaid i’r traethawd ymchwil ar ffurf amgen gydymffurfio â’r un rheoliadau sy’n rheoli’r traethawd ymchwil PhD arferol. Bydd y meini prawf ar gyfer y dyfarniad a’r safon y mae’n rhaid ei chyrraedd hefyd yr un fath ag ar gyfer y PhD arferol. Rhaid i ymgeiswyr sydd eisiau cyflwyno eu gwaith ar y ffurf amgen ddilyn y canllawiau isod.

19. Gall deunyddiau a gynhwysir yn y traethawd ymchwil ar ffurf amgen gynnwys rhai sydd wedi’u cynhyrchu gan y myfyriwr yn unig ac/neu yn rhannol a gallant fod wedi’u cyhoeddi eisoes, wedi’u derbyn ar gyfer eu cyhoeddi, neu wedi eu cyflwyno i gael eu cyhoeddi mewn cyd-destunau a gymedrolir yn allanol megis cyfnodolion a thrafodion cynhadledd.

20. Dylai’r traethawd ymchwil barhau i fod yn gyfraniad gwreiddiol gan y myfyriwr i’r maes ymchwil, beth bynnag fo ei fformat. Rhaid gwneud datganiad clir ar ddechrau’r traethawd ymchwil i egluro a chyfiawnhau yn llawn natur a maint cyfraniad yr ymgeisydd ei hun a chyfraniad unrhyw gyd-awduron a chyd-weithredwyr eraill i’r cyhoeddiadau a gyflwynwyd. Rhaid i’r cyd-awduron neu’r cyd-weithredwyr lofnodi datganiadau yn cadarnhau hyn. Dylai’r deunyddiau a ymchwiliwyd ddeillio o ymchwil wreiddiol a wnaed wedi’r dyddiad pan gofrestrodd y myfyriwr gyntaf gyda’r Brifysgol.

21. Rhaid i unrhyw ymgeisydd sy’n dymuno cyflwyno ei draethawd ymchwil ar ffurf amgen gyflwyno cais ysgrifenedig, yn rhoi amlinelliad o strwythur arfaethedig y traethawd ymchwil i’w oruchwylydd a’r Pwyllgor Monitro Uwchraddedig priodol er mwyn ei gymeradwyo. Rhaid cyflwyno’r cais hwn cyn diwedd blwyddyn dau i ymgeiswyr llawn-amser a diwedd blwyddyn pedwar i ymgeiswyr rhan-amser. Dylai’r cais nodi pam mae’r traethawd ymchwil ar ffurf amgen yn fwy addas i’r prosiect ymchwil a dangos sut y bydd yr ymgeisydd yn cymryd mantais lawn o’r ffurf amgen. Os rhoddir cymeradwyaeth i gyflwyno ar ffurf amgen, rhaid i’r myfyriwr gael y ffurflen Caniatâd i gyflwyno traethawd ymchwil PhD ar ffurf amgen o’r swyddfa briodol. Rhaid i fyfyrwyr gyflwyno’r ffurflen gyda’u traethawd ymchwil.

22. Gall nifer y papurau a gynhwysir yn y traethawd ymchwil ar ffurf amgen amrywio yn ôl y ddisgyblaeth, ond bydd fel arfer rhwng tri a phump. Dylai’r papurau adlewyrchu maint, ansawdd a gwreiddioldeb yr ymchwil a’r dadansoddi a ddisgwylir gan ymgeisydd sy’n cyflwyno traethawd ymchwil doethurol arferol.

23. Rhaid i’r papurau gynrychioli corff o wybodaeth o fewn traethawd ymchwil cydlynol a pharhaus, yn hytrach na chyfres o gyhoeddiadau digyswllt. O’r herwydd, dylai unrhyw gyhoeddiadau fod wedi’u haddasu a’u hintegreiddio o fewn strwythur y traethawd ymchwil. Dylai unrhyw adrannau o’r traethawd ymchwil sydd wedi’u cyhoeddi neu sydd mewn fformat y gellid ei gyhoeddi fod wedi’u nodi’n glir.

24. Rhaid i unrhyw waith a gyflwynir o fewn y traethawd ymchwil ar ffurf amgen fod yn sylweddol wahanol i unrhyw waith sydd, o bosibl, wedi’i gyflwyno am unrhyw radd yn y sefydliad hwn neu unrhyw sefydliad arall.

25. Mae’n hanfodol bod y traethawd ymchwil ar ffurf amgen yn cynnwys dadansoddiad manwl a beirniadol o’r gwaith a’r dulliau a ddefnyddiwyd, gan ei bod yn bosibl na fydd adrannau sydd wedi’u fformadu ar gyfer cyhoeddi/dosbarthu yn cynnwys y lefel hon o fanylder eisoes. Dylai strwythur y traethawd ymchwil ar ffurf amgen gynnwys y canlynol:

I. Yr holl dudalennau angenrheidiol ar gyfer cyflwyno traethawd ymchwil arferol, y ceir manylion yn eu cylch yn y canllawiau cyflwyno PhD
II. Rhesymeg dros gyflwyno’r traethawd ymchwil ar ffurf amgen a disgrifiad o sut y cafodd fformat y traethawd ei greu
III. Cyd-destun ysgrifenedig ar gyfer yr ymchwil, a ddylai gynnwys adrannau/penodau o hyd at 20,000 o eiriau o ran cyfanswm yn diffinio’r rhesymeg ar gyfer yr ymchwil a’r strategaeth a ddefnyddiwyd yn ystod yr ymchwil fel y’i dangosir yn y traethawd ymchwil. Dylai’r adran/penodau cyd-destun gynnwys crynodeb o bob cyhoeddiad a gyflwynwyd; amlinelliad o’u cydberthynas, gan gynnwys cyfosodiad o’r gwaith fel y’i dangoswyd gan y cyhoeddiadau fel astudiaeth gydlynol gyflawn; crynodeb o nodau, amcanion, methodoleg, canlyniadau a chasgliadau yr ymchwil a gwmpasir gan y gwaith a gyflwynwyd; myfyrio beirniadol ar y fethodoleg a’r dulliau ymchwil; adolygiad beirniadol o’r cyfraniad sylweddol a gwreiddiol y mae’r gwaith yn ei wneud i’r maes academaidd dan sylw; ac arddangosiad o'r cyfraniad gwreiddiol ac annibynnol i wybodaeth a rhesymeg i brofi ei fod o leiaf yn cyfateb i’r hyn a ddangosir fel arfer drwy gyflwyno traethawd ymchwil
IV. Adolygiad ysgrifenedig o ymchwil flaenorol yn cynnwys adrannau yn crynhoi ac yn cyfosod ymchwil flaenorol ym maes yr astudiaeth
V. Methodoleg ysgrifenedig yn rhoi manylion y dulliau a ddefnyddiwyd yn ystod yr ymchwil a dadansoddiad beirniadol manwl o’r dulliau hynny a’r wybodaeth y gwnaethant ei darparu
VI. Cyflwyno’r canlyniadau a’r dadansoddiad ohonynt ar ffurf sy’n addas i’w gyflwyno mewn cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid ac/neu mewn penodau traethawd ymchwil confensiynol fel mewn traethawd ymchwil PhD arferol
VII. Crynodeb/casgliad yn dwyn ynghyd amrywiol ganlyniadau’r gwaith yn synthesis cydlynol ac yn nodi cyfeiriadau ar gyfer gwaith yn y dyfodol
VIII. Cyfeiriadau ac atodiadau fel mewn traethawd ymchwil PhD arferol

26. Gall ymgorffori penodau mewn arddull cyhoeddiad yn y traethawd ymchwil arwain at rywfaint o ddyblygu gan y gall pob pennod yn arddull cyhoeddiad fod ag elfennau hunangynhwysol a allai orgyffwrdd â rhannau o adrannau eraill y traethawd ymchwil. Serch hynny, ni ddylai uchafswm hyd y traethawd ymchwil doethurol ar ffurf amgen fod yn hwy, fel arfer, na hyd traethawd ymchwil arferol.

27. Fel yn achos traethawd ymchwil doethurol arferol, dylai arholwyr fodloni eu hunain bod y traethawd ymchwil ar ffurf amgen yn cwrdd anghenion y radd ddoethurol fel y cânt eu pennu yn y rheoliadau a’r polisïau priodol. Nid yw’r ffaith fod traethawd ymchwil yn cynnwys deunydd sydd wedi’i gyhoeddi neu ei dderbyn ar gyfer ei gyhoeddi yn gwarantu y bydd yr arholwyr yn argymell y radd y mae’r ymgeisydd yn cael ei (h)arholi ar ei chyfer.