A oes angen i mi gyflwyno copi electronig o’r traethawd?

Mae’n rhaid i chi gyflwyno copi electronig o fersiwn terfynol eich traethawd i’ch adran, ynghyd â’r copïau caled. Caiff y copi hwn ei adneuo ym Mhorth Ymchwil Aberystwyth. Yn ogystal, mewn rhai amgylchiadau caiff myfyrwyr ddewis OPTIO ALLAN er mwyn sicrhau na chaiff eu traethawd ymchwil ei rannu’n electronig drwy Borth Ymchwil Aberystwyth. Os digwydd hynny, cedwir y copi electronig ar ffeil ond dim ond y teitl, y llyfryddiaeth a’r crynodeb fydd ar gael. I gael rhagor o wybodaeth am y ffurflenni a’r gweithdrefnau cysylltwch â’r Gwasanaethau Gwybodaeth (ffôn: 01970 622396/ebost:is@aber.ac.uk).