Cyflwyno traethawd ymchwil yn gynnar o fewn y cyfnod cofrestru

Dylai’r myfyrwyr a’r staff nodi na cheir cyflwyno traethodau PhD fwy na 6 mis cyn i’r cyfnod cofrestru ddod i ben yn ffurfiol. Mae’r rheoliadau’n caniatáu i fyfyrwyr gyflwyno’r traethawd cyn diwedd y cyfnod cofrestru ond bydd yn rhaid talu’r ffioedd sy’n weddill hyd at ddiwedd y cyfnod cofrestru. Os ydych yn ystyried cyflwyno eich traethawd ymchwil cyn dechrau eich cyfnod ysgrifennu (abeyance) gofynnir i chi gysylltu â’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion i gael cadarnhad o’r dyddiad cynharaf y cewch gyflwyno eich traethawd.