Canllawiau i ymgeiswyr

Terfynau Amser ar gyfer Cyflwyno Traethodau Ymchwil

Rhaid i'ch gwaith gael ei gyflwyno ar y dyddiad cau a nodir yn eich cofnod myfyriwr neu cyn hynny.

Hyd y Traethawd Ymchwil

Yr uchafswm ar gyfer traethawd ymchwil PhD yw 100,000 o eiriau (heb gynnwys atodiadau a chyfeiriadau).

Yr uchafswm ar gyfer traethawd ymchwil MPhil/LLM (Res) neu Dag/DProf yw 60,000 o eiriau (heb gynnwys atodiadau a chyfeiriadau).

Darpariaethau arbennig ynglŷn â Chynlluniau yn y Celfyddydau Creadigol.

Yn achos ymgeiswyr sy'n dilyn cynlluniau gradd ymchwil a gymeradwywyd sy'n dod o fewn maes pwnc y Brifysgol yn y Celfyddydau Creadigol a Pherfformio, gall y traethawd ymchwil fod ar un neu fwy o'r ffurfiau a ganlyn: arteffactau, sgôr, portffolio o weithiau gwreiddiol, perfformiad neu arddangosfa.

I gyd-fynd â’r cyflwyniad rhaid cael sylwebaeth ysgrifenedig yn ei osod yn ei gyd-destun academaidd ynghyd ag unrhyw eitemau eraill a all fod yn ofynnol (e.e. catalog neu recordiad sain neu recordiad gweledol). Erbyn hyn gellir cyflwyno'r cyflwyniadau hyn trwy SharePoint a all gefnogi ffeiliau MP4. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges ebost at grastaff@aber.ac.uk.

Crynodeb

Bydd copi o’r Crynodeb yn cael ei gyhoeddi yng nghadwrfa ymchwil ar-lein y Brifysgol, hyd yn oed os na fydd y traethawd ymchwil ar gael. Darperir ffurflen ar ddiwedd y llyfryn hwn i chi ei llenwi.

Crynodeb o'r traethawd ymchwil: canllawiau i fyfyrwyr ymchwil

Mae crynodeb yn golygu crynodeb hunangynhwysol o'ch traethawd mewn 250-300 o eiriau. Bydd yn ymddangos ar flaen y traethawd ac yn rhoi cyflwyniad cryno i'ch arholwyr i'r traethawd. Yn arwyddocaol iawn, ar ôl ichi basio, bydd yn cael ei ddangos ar gadwrfeydd ymchwil ar-lein i hysbysu darpar ddarllenwyr am ei gynnwys.

Bydd yn cynnwys termau allweddol y gellir eu dewis mewn chwiliadau. Gan hynny, mae’n bwysig o ran galluogi darllenwyr i ddod o hyd i’ch gwaith a’u helpu i benderfynu a yw’n berthnasol i’w hymchwil nhw eu hunain. Bydd papurau cynhadledd, grantiau ymchwil a chyhoeddiadau cyfnodolion i gyd yn gofyn am grynodeb ac felly mae'n ddefnyddiol datblygu'r gallu i lunio’r crynodebau hyn sy’n llawn gwybodaeth.

Bydd y crynodeb yn cael ei ysgrifennu ar ôl i fanylion terfynol y traethawd gael eu pennu, a hynny er mwyn iddo ymdrin â’r gwaith cyfan. Gall fod ar wahanol ffurfiau gan ddibynnu ar y ddisgyblaeth (gwiriwch y gwaith yn eich maes disgyblaeth chi’ch hun i gael arweiniad) ond fel arfer bydd yn cynnwys:

  • Rhesymeg y prosiect
  • Y cwestiwn/cwestiynau ymchwil
  • Y dull(iau)
  • Y prif ganfyddiadau/casgliadau
  • Goblygiadau’r canfyddiadau (e.e., ar gyfer ymchwil yn y dyfodol, cymwysiadau ymarferol)

Mae’n werth cymryd amser i lunio crynodeb graenus, yn enwedig pan fyddwch yn dod at y cyflwyniad terfynol i’w adneuo, er mwyn denu cymaint o sylw â phosibl i’ch traethawd.

Dylid llunio crynodeb ar gyfer pob math o gyflwyniad gradd ymchwil, gan gynnwys gweithiau sydd wedi’u seilio ar ymarfer creadigol. Hyd yn oed os bydd y traethawd dan embargo am gyfnod, bydd y crynodeb yn cael ei gyhoeddi, fel y gall unrhyw un sydd â diddordeb ofyn am gyfle unigol i’w weld neu wneud nodyn i wirio’r traethawd pan gaiff ei ryddhau.

Dogfennau i'w Cyflwyno gyda'ch traethawd ymchwil

Mae’r Nodiadau Cyfarwyddyd hyn yn cynnwys tudalen o’r enw ‘Cynllun Gorfodol Datganiadau a Gosodiadau’. Dylid mewnosod cynnwys LLAWN y tudalennau hyn ar flaen y copi electronig o'ch traethawd heb newid geiriad na chynnwys y Datganiad neu'r Gosodiadau.

Rhaid llofnodi a dyddio pob Datganiad a Gosodiad.

Mae’r ffurflen hon hefyd yn cynnwys cyfrif geiriau eich traethawd ymchwil, y mae’n rhaid ei gwblhau.

Cyflwyno Traethodau Ymchwil

Rhaid i ymgeiswyr sy'n cyflwyno traethawd i'w arholi gyflwyno un copi electronig i'r ddolen cyflwyno traethodau ymchwil yn Blackboard.

  • Enw'r ymgeisydd;
  • Enw’r Brifysgol (gellir ei dalfyrru i PA);
  • Y radd y mae'r traethawd yn cael ei gyflwyno ar ei chyfer;
  • Enw llawn neu dalfyredig y traethawd; a’r
  • Dyddiad cyflwyno.

Rhaid i’r wybodaeth hon fod ar gael i'w gweld ar y tudalen blaen.

Os bydd y gwaith yn cynnwys mwy nag un gyfrol, rhaid i'r tudalen blaen hefyd ddangos rhif pob cyfrol.

Copi electronig o'r traethawd ymchwil, boed i'w harholi neu i'w hadneuo mewn llyfrgelloedd, gael eu cyflwyno ar ffurf barhaol a darllenadwy ac ni chaiff y nodau a ddefnyddir yn y prif destun (ond nid o reidrwydd mewn darluniau, mapiau etc) fod yn llai na 12pt; ni chaiff y nodau a ddefnyddir ym mhob testun arall, nodiadau, troednodiadau, etc fod yn llai na 10pt. Rhaid i'r teipio fod o ansawdd gyfartal gyda nodau du clir.

Rhaid defnyddio bylchiad dwbl neu un a hanner yn y prif destun, ond rhaid defnyddio bylchiad sengl yn y crynodeb ac mewn unrhyw ddyfyniadau wedi'u hindeintio a throednodiadau. Rhaid i luniadau a brasluniau fod mewn inc du, dylid hepgor manylion diangen a dylai'r raddfa fod yn golygu nad yw'r gofod lleiaf rhwng llinellau yn llai nag 1mm. Dylid rhifo pob tudalen yn briodol.

Caiff yr ymgeiswyr gyflwyno deunyddiau ategol eraill pan fo’r rheiny’n ychwanegiad defnyddiol at y gwaith a geir yn y cyflwyniad ysgrifenedig, neu'n esboniad ohono, ac os deunydd o'r fath yw'r dull mwyaf priodol o gyflwyno'r wybodaeth dan sylw. Yn ddelfrydol bydd hyn ar ffurf ddigidol ond os nad yw hyn yn bosibl, dylai’r myfyrwyr ymgynghori â'u goruchwylwyr a staff y Gwasanaethau Gwybodaeth i gael cyngor yn gynnar yn eu hymchwil.

I gael rhagor o wybodaeth am gyflwyniadau gan ddefnyddio ffeiliau MP4, cysylltwch â grastaff@aber.ac.uk.