Rhag-Gofrestru

Adran Cyfrifiadureg

Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion rhag-gofrestru hefyd.

Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau sengl a chynlluniau ar y cyd yn yr Adran Cyfrifiadureg

Bydd yr Adran Cyfrifiadureg yn cyhoeddi manylion Rhag-gofrestru ar safle y Bwrdd Du y modiwl ‘Gwybodaeth Israddedig: Cyfrifiadureg / Undergraduate Information: Computer Science’. Bydd ar gael o ddydd Llun 14 Medi ymlaen. Mae gan y modiwl hwn ffolder o'r enw ‘Gwybodaeth i Fyfyrwyr’, gyda'r is-ffolder ‘Rhag-gofrestru 2026’, sy'n cynnwys gwybodaeth gynghorol am gynlluniau astudio a gofynion y modiwlau ar gyfer 2026/27. Dylech ddewis eich modiwlau yn eich cofnod myfyriwr gan ddefnyddio’r dasg Rhag-gofrestru erbyn diwedd y dydd, dydd Llun 21 Medi.

Cofiwch gysylltu gyda’ch tiwtor personol neu cydlynydd y modiwlau os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â Rhag-gofrestru.  Bydd y tiwtoriaid personol ar gael i gynnal cyfarfodydd unigol trwy Microsoft Teams neu i drafod cwestiynau trwy e-bost. Mae modd hefyd i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r adran trwy anfon e-bost at cs-office@aber.ac.uk.