Rhag-Gofrestru

Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion rhag-gofrestru hefyd.
 
Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau sengl a chynlluniau ar y cyd yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.

Bydd yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn cyhoeddi manylion Rhag-gofrestru ar safle y Bwrdd Du y modiwl ‘Gwybodaeth i Israddedigion ar gyfer yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Bydd ar gael o ddydd Llun 14 Medi ymlaen. O fewn y modiwl bydd ffolder ‘Rhag-gofrestru’ a fydd yn cynnwys gwybodaeth ar gynlluniau astudio a gofynion y modiwlau ar gyfer 2026/27.  Dylech ddewis eich modiwlau yn eich cofnod myfyriwr gan ddefnyddio’r dasg Rhag-gofrestru erbyn diwedd y dydd, dydd Llun 21 Medi.

Cofiwch gysylltu gyda’ch tiwtor personol os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â Rhag-gofrestru, bydd y tiwtoriaid personol ar gael i gynnal cyfarfodydd unigol trwy Microsoft Teams neu i drafod cwestiynau trwy e-bost. Mae modd hefyd i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r adran trwy anfon e-bost at engstaff@aber.ac.uk.