Rhag-Gofrestru

Gwyddorau Bywyd
 
Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau yn y Gwyddorau Bywyd:
 
Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion Rhag-Gofrestru hefyd.

Bydd yr Adran y Gwyddorau Bywyd yn cyhoeddi manylion Rhag-gofrestru ar safle y Bwrdd Du y modiwl ‘Gwybodaeth i Israddedigion – Adran y Gwyddorau Bywyd’. Bydd ar gael o ddydd Llun 14 Medi ymlaen. O fewn y modiwl bydd ffolder ‘Rhag-gofrestru’ a fydd yn cynnwys gwybodaeth ar gynlluniau astudio a gofynion y modiwlau ar gyfer 2026/27. Fyddech yn dewis eich modiwlau yn eich cofnod myfyriwr gan ddefnyddio’r dasg Rhag-gofrestru erbyn diwedd y dydd, dydd Llun 21 Medi.

Cofiwch gysylltu gyda’ch tiwtor personol neu cydlynwyr modiwl os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â Rhag-gofrestru. Bydd y tiwtoriaid personol ar gael i gynnal cyfarfodydd unigol trwy Microsoft Teams neu i drafod cwestiynau trwy e-bost. Mae modd hefyd i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r adran trwy anfon e-bost at ibtstaff@aber.ac.uk.