Rhag-Gofrestru
Canolfan Saesneg Rhyngwladol
Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau dilyn modiwl a gynigir gan y Canolfan Saesneg Rhyngwladol.
Os hoffech ddilyn unrhyw fodiwl a gynigir gan y Ganolfan, dylech gysylltu â’r aelod o staff priodol:
Mae’r Ganolfan Saesneg Ryngwladol yn cynnig ystod o fodiwlau israddedig ynghyd a chyrsiau / gwasanaethau sydd ar gael i fyfyrwyr yn ddi-dâl (heb gredydau). Maent yn cynnwys modiwlau ar Ysgrifennu Academaidd (blwyddyn 1), Cyfathrebu Proffesiynol (blynyddoedd 2 a 3) a Dysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (blynyddoedd 2 a 3). Rydym hefyd yn darparu cyrsiau ysgrifennu academaidd yn ddi-dâl i fyfyrwyr israddedig ac uwchraddedig, a bydd y rhain yn cael eu dysgu trwy Microsoft Teams eleni. Bydd sesiynau cynghori di-dâl gyda Chymrawd y Gronfa Lenyddol Frenhinol, a chyngor unigol di-dâl gan addysgwyr iaith Saeseg hefyd ar gael ar-lein.
Am ragor o fanylion danfonwch ebost at tesol@aber.ac.uk
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol dylech gysylltu â:
Swyddfa Gweinyddu Myfyrwyr, Y Gofrestrfa Academaidd, Ffôn: 628515/622787 E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk