Rhag-Gofrestru

Adran Mathemateg

Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion rhag-gofrestru hefyd
 
Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau sengl a chynlluniau ar y cyd yn yr Adran Mathemateg:
 

Bydd yr Adran Mathemateg yn cyhoeddi manylion Rhag-gofrestru ar safle y Bwrdd Du y modiwl ‘DEPT-M-UG Gwybodaeth Israddedig: Mathemateg / Undergraduate Information: Mathematics’’. Bydd ar gael o ddydd Llun 15 Medi ymlaen. Mae gan y modiwl Gwybodaeth Israddedig Mathemateg ffolder o'r enw `Gwybodaeth i Fyfyrwyr Newydd' a fydd yn cynnwys briff Cyn-gofrestru (ar gyfer pob cynllun Mathemateg) gyda nodiadau ar sut i ddewis modiwlau ar gyfer 2025/26. Dylech ddewis eich modiwlau yn eich cofnod myfyriwr gan ddefnyddio’r dasg Rhag-gofrestru erbyn diwedd y dydd, dydd Llun 22 Medi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Rhag-gofrestru, gallwch gysylltu â: Tudur Davies, cyfrwng Cymraeg, e-bost itd@aber.ac.uk , Rob Douglas, e-bost rsd@aber.ac.uk ;

Os oes gennych ymholiadau nad ydynt yn hawdd eu datrys drwy e-bost, gallwn drefnu Cyfarfod Microsoft Teams.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol, dylech gysylltu â:
 
Ymholiadau Gweinyddu Myfyrwyr, Y Gofrestrfa Academaidd Ffôn: 628515/622787  E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk