Rhag-Gofrestru
Adran Mathemateg
Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion Rhag-Gofrestru hefyd
Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau sengl a chynlluniau ar y cyd yn yr Adran Mathemateg:
Bydd yr Adran Fathemateg yn rhoi cyngor ar y broses o Rag-gofrestru ar safle Blackboard y modiwl Gwybodaeth Israddedig: Mathemateg DEPT-M-UG. Bydd y cyngor hwn ar gael o ddydd Llun 14eg o Fedi ymlaen. Mae’r modiwl Gwybodaeth Israddedig Mathemateg yn cynnwys ffolder o'r enw “Pre-Registration Instructions” a fydd yn cynnwys briff Rhag-gofrestru (ar gyfer pob cynllun gradd Mathemateg) gyda nodiadau ar sut i ddewis modiwlau ar gyfer 2026/27. Bydd angen i chi nodi eich modiwlau dewisedig ar eich Cofnod Myfyriwr gan ddefnyddio'r dasg Rhag-gofrestru erbyn diwedd dydd Llun 21ain o Fedi.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau’n ymwneud â Rhag-gofrestru, gallwch gysylltu â:
- Rob Douglas, e-bostiwch rsd@aber.ac.uk
- (cyfrwng Cymraeg) Tudur Davies, e-bostiwch itd@aber.ac.uk
Os oes gennych ymholiadau nad ydynt yn hawdd eu datrys trwy e-bost, gallwn drefnu cyfarfod Microsoft Teams.
