Rhag-Gofrestru
Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol
Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion rhag-gofrestru hefyd.
Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau sengl, cynlluniau ar y cyd a chynlluniay Prif-Bwnc/Is-Bwnc yn yr Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol.
Bydd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn gosod cyngor ar gyfer Rhag-gofrestru ar safle Blackboard: Mudiadau > 'Gwybodaeth Israddedig: Gwleidyddiaeth Ryngwladol > Dechrau arni: gwybodaeth i fyfyrwyr newydd. Bydd y cyngor hwn ar gael o ddydd Llun 14 Medi ymlaen. Mae’r safle hwn yn cynnwys ffolder o'r enw 'Canllaw rhag-gofrestru a chofrestru' a fydd yn cynnwys gwybodaeth ymgynghorol ar gynlluniau astudio a gofynion modiwlau ar gyfer 2026/27. Yna byddwch yn nodi'r modiwlau a ddewiswch ar eich cofnod myfyriwr gan ddefnyddio'r dasg Rhag-gofrestru erbyn diwedd y dydd, dydd Llun 21 Medi.
Cofiwch, os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â Rhag-gofrestru, gallwch gysylltu â'ch tiwtor personol neu gydlynwyr y modiwlau. Efallai y bydd eich tiwtoriaid ar gael i gynnal cyfarfodydd unigol trwy Microsoft Teams neu mae’n bosib y bydd eich cwestiynau’n cael eu hateb drwy e-bost. Mae croeso i chi hefyd gysylltu â'r adran yn uniongyrchol trwy anfon e-bost at Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu'r adran yn interpoldlt@aber.ac.uk
