Rhag-Gofrestru

Ysgol Fusnes Aberystwyth

Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion rhag-gofrestru hefyd.
 
Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau sengl, cynlluniau ar y cyd a chynlluniau Prif-Bwnc/Is-Bwnc yn yr Ysgol Fusnes.
 

Bydd Ysgol Fusnes Aberystwyth yn rhoi cyngor cyn cofrestru ar safle Blackboard y modiwl ‘Content / Gwybodaeth Israddedig: Ysgol Fusnes Aberystwyth / Undergraduate Information: Aberystwyth Business School'. Gellir dod o hyd iddo yn yr adran 'Sefydliadau'. Ar yr ochr chwith, fe welwch adran o'r enw 'Sefydlu a Chofrestru', cliciwch ar hyn ac yna fe welwch ffolder o'r enw 'Cyn-gofrestru'.  Bydd y ffolder hon yn cynnwys gwybodaeth gynghori ar gyfer cynlluniau astudio a gofynion modiwlau ar gyfer 2025/26.  Bydd cyngor ar gael o ddydd Llun 15 Medi ymlaen. Byddwch yn trafod eich dewisiadau modiwl gyda'ch Cydlynydd Cynllun Gradd pan fyddwch yn cwrdd â nhw am 13.30 ddydd Llun 22 Medi, gellir gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych bryd hynny.

 

Cofiwch gysylltu gyda’ch tiwtor personol os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â Rhag-gofrestru. Mae modd hefyd i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r adran trwy anfon e-bost at ysgol-fusnes@aber.ac.uk

 

 
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol, dylech gysylltu â:

Swyddfa Gweinyddu Myfyrwyr, Y Gofrestrfa Academaidd  Ffôn: 628515/622787    E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk