Rhag-Gofrestru

Seicoleg

Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau sengl, cynlluniau ar y cyd yn yr Adran Seicoleg.
 
Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion rhag-gofrestru hefyd.

Bydd yr Adran Seicoleg  yn cyhoeddi manylion Rhag-gofrestru ar safle Blackboard y modiwl ‘Gwybodaeth i Israddedigion Adran Seicoleg’. Bydd ar gael o ddydd Llun 18 Medi ymlaen. O fewn y modiwl bydd ffolder ‘Rhag-gofrestru’ a fydd yn cynnwys gwybodaeth ar gynlluniau astudio a gofynion y modiwlau ar gyfer 2023/24.  Dylech ddewis eich modiwlau yn eich cofnod myfyriwr gan ddefnyddio’r dasg Rhag-gofrestru erbyn diwedd y dydd, dydd Llun 25 Medi.

Cofiwch gysylltu gyda’ch tiwtor personol os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â Rhag-gofrestru, bydd y tiwtoriaid personol ar gael i gynnal cyfarfodydd unigol trwy Microsoft Teams neu i drafod cwestiynau trwy e-bost. Mae modd hefyd i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r adran trwy anfon e-bost at psychology@aber.ac.uk.

 

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau cyffredinol at:
 
Ymholiadau Gweinyddu Myfyrwyr, Y Gofrestrfa Academaidd   Ffôn: 628515/622787      E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk