Rhag-Gofrestru
Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Os byddwch yn dilyn cynllun gradd a ddysgir ar y cyd gan adran arall bydd yn rhaid ichwi sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion Rhag-Gofrestru yr adran honno yn ogystal.
Mae’r gofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn cynlluniau yn yr Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd fel a ganlyn.
Bydd yr Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn cyhoeddi manylion Rhag-gofrestru ar safle y Bwrdd Du y modiwl ‘Gwybodaeth i Israddedigion Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd’. Bydd ar gael o ddydd Llun 14 Medi ymlaen. O fewn y modiwl bydd ffolder ‘Rhag-gofrestru’ a fydd yn cynnwys gwybodaeth ar gynlluniau astudio a gofynion y modiwlau ar gyfer 2026/27. Dylech ddewis eich modiwlau yn eich cofnod myfyriwr gan ddefnyddio’r dasg Rhag-gofrestru erbyn diwedd y dydd, dydd Llun 21 Medi.
Cofiwch gysylltu gyda’ch tiwtor personol os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â Rhag-gofrestru, bydd y tiwtoriaid personol ar gael i gynnal cyfarfodydd unigol trwy Microsoft Teams neu i drafod cwestiynau trwy e-bost. Mae modd hefyd i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r adran trwy anfon e-bost at cdmstaff@aber.ac.uk
