Ailsefyll yn Fewnol

ISRADDEIGION (gwybodaeth i uwchraddedigion isod).

Mae gan fyfyrwyr israddedig yn Rhan Dau sydd wedi symud ymlaen i'w blwyddyn astudio nesaf ond sy'n cario methiannau o'r sesiwn ddiwethaf gyfle i ailsefyll unrhyw fethiannau trwy gofrestru fel ymgeisydd ailsefyll mewnol yn y sesiwn ganlynol, ar yr amod eu bod wedi derbyn dangosydd ailsefyll 'F', 'A', 'H', neu 'S'. Gwiriwch y wybodaeth am arholiadau sydd ar gael ar wefan y brifysgol i weld beth yw ystyr y dangosyddion ailsefyll gwahanol hyn. Gall adrannau academaidd gynghori ynghylch a ddylai myfyrwyr ailsefyll modiwlau penodol a fethwyd. Mae'n bwysig bod pob myfyriwr yn ymgynghori â'r adran(nau) briodol ynghylch y gofynion ailsefyll.

Mae'r ffioedd ailsefyll ar gael ar y dudalen we. Bydd myfyrwyr sy'n cofrestru'n hwyr ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cofrestru hefyd yn wynebu ffi cofrestru hwyr o £50.

I gofrestru ar gyfer Ailsefyll yn Fewnol;

Rhaid i fyfyrwyr gofrestru i ailsefyll drwy gwblhau'r dasg 'Ailsefyll Mewnol' ar-lein, a fydd ar gael drwy eich Cofnod Myfyriwr ar y we am bythefnos yng nghanol mis Hydref. Rhaid i'ch adran gymeradwyo eich cofrestru Ailsefyll Mewnol. Byddwch yn cael gwybod pan fydd y dasg ar gael, ynghyd â'r dyddiad cau ar gyfer ei chwblhau. Os byddwch yn cyflwyno gwaith neu'n mynychu arholiadau heb gofrestru i ailsefyll, yna ni fydd unrhyw farc a gewch yn ymddangos ar eich cofnod ac ni fydd yn cyfrif tuag at eich gradd. Codir ffi gofrestru hwyr o £50 arnoch hefyd. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich cofrestru, anfonwch e-bost at ugfstaff@aber.ac.uk .

Uwchraddedigion

Mae gan fyfyrwyr uwchraddedig rhan-amser sydd wedi symud ymlaen i'w blwyddyn astudio nesaf ond sy'n cario methiannau o'r sesiwn ddiwethaf gyfle i ailsefyll unrhyw fethiannau trwy gofrestru fel ymgeisydd ailsefyll mewnol yn y sesiwn ganlynol, ar yr amod eu bod wedi derbyn dangosydd ailsefyll 'F', 'A', 'H', neu 'T'. Gwiriwch y wybodaeth am arholiadau sydd ar gael ar wefan y brifysgol i weld beth yw ystyr y dangosyddion ailsefyll gwahanol hyn. Gall adrannau academaidd gynghori ynghylch a ddylai myfyrwyr ailsefyll modiwlau penodol a fethwyd. Mae'n bwysig bod pob myfyriwr yn ymgynghori â'r adran(nau) briodol ynghylch y gofynion ailsefyll.

Mae'r ffioedd ailsefyll ar gael ar y dudalen we. Bydd myfyrwyr sy'n cofrestru'n hwyr ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cofrestru hefyd yn wynebu ffi cofrestru hwyr o £50.

I gofrestru ar gyfer Ailsefyll Mewnol (Uwchraddedig);

Rhaid i Fyfyrwyr Uwchraddedig Rhan-amser sydd am gofrestru ar gyfer Ailsefyll yn Fewnol gysylltu â pgsstaff@aber.ac.uk  i ofyn am ffurflen Gofrestru i Ailsefyll yn Fewnol. Rhaid i'ch adran gymeradwyo eich cofrestru ailsefyll. Bydd y cyfnod cofrestru ailsefyll yn fewnol ar agor am bythefnos yng nghanol mis Hydref. Cewch wybod pan fyddwch yn derbyn y ffurflen am y dyddiad cau ar gyfer ei dychwelyd. Os byddwch yn cyflwyno gwaith neu'n mynychu arholiadau heb fod wedi cofrestru i ailsefyll, yna ni fydd unrhyw farc a gewch yn ymddangos ar eich cofnod ac ni fydd yn cyfrif tuag at eich gradd. Codir ffi gofrestru hwyr o £50 arnoch hefyd. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich cofrestru, anfonwch e-bost at pgsstaff@aber.ac.uk

I dynnu allan o ailsefyll modiwl; (Israddedigion ac Uwchraddedigion)

Os cofrestrwch i ailsefyll modiwl, a phenderfynu wedyn peidio ag ailsefyll am ba reswm bynnag (er enghraifft, oherwydd cyngor gan eich adran) rhaid ichi dynnu allan erbyn 15 Tachwedd (ar gyfer semester 1) a 15 Mawrth (ar gyfer semester 2). Os na thynnwch allan bydd eich cofnod yn dangos ichi ailsefyll a methu a chodir y tâl ailsefyll arnoch o hyd.  (Mae hyn yn wir hyd yn oed os ydych heb fynd i'r arholiad neu heb gyflwyno gwaith ysgrifenedig ar gyfer y modiwl dan sylw). Sylwch mai'r marc uchaf a gawsoch yn y modiwl sy'n cyfri at eich gradd.

Er mwyn tynnu allan rhaid i Israddedigion e-bostio ugfstaff@aber.ac.uk ac mi ddylai Uwchraddedigion e-bostio pgsstaff@aber.ac.uk gan roi eich manylion myfyriwr a manylion y modiwl rydych yn tynnu allan ohono.