Cwestiynau Cyffredin am E-gyflwyno - Adborth

Noder fod y dudalen hon yn is-adran o'r ddogfen lawn Cwestiynau Cyffredin am E-gyflwyno. Mae’r llawlyfr cyfan hefyd ar gael i’w lawrlwytho: Cwestiynau Cyffredin am E-gyflwyno (PDF).

 

Adborth

Oes rhaid i fi ddychwelyd adborthmyfyrwyr ar-lein o fis Medi 2014?

Nac oes, caiff staff sy’n dal i ddymuno marcio ar gopïau wedi’u hargraffu o draethodau a dychwelyd adborth yn y fformat hwn barhau i wneud hynny yn ystod cam cyntaf y prosiect. Fodd bynnag, hyd yn oed os yw’n well ganddynt raddio copi wedi’i argraffu, anogir staff academaidd i gyflwyno adborth wedi’i deipio drwy Blackboard Assignment/Turnitin. Bydd y prosiect yn parhau i gynnig cymorth a hyfforddiant i staff academaidd drwy gydol 2014-2015 â’r nod o gynyddu’r nifer o staff sy’n darparu adborth yn electronig. Mae’n bwysig fod adrannau’n egluro’r trefniadau i fyfyrwyr ar gyfer derbyn adborth ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. O’r trafodaethau rydym ni wedi’u cael gydag Undeb y Myfyrwyr yn ogystal â chanlyniadau arolwg gan fyfyrwyr yn y peilot, byddai’n well gan fyfyrwyr dderbyn adborth mewn fformat electronig.

Pryd fydd yr adborth yn cael ei ddychwelyd i fyfyrwyr?

Ar ddyddiad penodol o fewn y cyfnod dychwelyd o dair wythnos, caiff adborth a marciau eu rhyddhau i fyfyrwyr ar y modiwl. Caiff hyn ei reoli drwy osodiad ar Turnitin a elwir y ‘Dyddiad Postio’. Mae modd ei newid yn rhwydd drwy’r ddewislen ‘Golygu Gosodiadau’.

Sut fydd e-gyflwyno ac e-adborth yn cysylltu â pholisi’r brifysgol ar asesu ac adborth?

Mae’r brifysgol yn ei gwneud yn ofynnol i gael adborth amserol a phriodol ar waith cwrs myfyrwyr, o fewn set o egwyddorion arweiniol. Mae modd cyflawni hyn mewn nifer o ffyrdd, nid yn electronig yn unig. Er enghraifft bydd tiwtorialau wyneb yn wyneb yn parhau i fod yn ddull pwysig o gyflwyno adborth mewn llawer o adrannau. Fodd bynnag gall defnyddio e-adborth hwyluso cyflwyno marciau ac adborth yn gynt, gan gynnig cyfleoedd i ddarparu adborth mewn ffyrdd gwahanol sy’n gallu cynyddu effeithiolrwydd. Fel unrhyw offeryn, bydd ei effeithiolrwydd yn dibynnu ar sut y caiff ei ddefnyddio.

Ydy hi’n bosibl i staff gweinyddol fonitro’r terfyn amser o 3 wythnos ar gyfer marcio ac adborth?

Drwy’r swyddogaeth ‘gweinyddydd adrannol’ bydd gweinyddwyr adran yn gallu cysylltu ag AberLearn Blackboard. Drwy ddefnyddio’r swyddogaeth hon i edrych ar y modiwlau bydd staff yn gallu edrych ar y Ganolfan Raddau i weld a oes marciau wedi’u hychwanegu. Bydd modd caniatáu i Gyfarwyddwyr Astudiaethau Israddedig neu Uwchraddedig gysylltu â chyrsiau AberLearn Blackboard yn yr un modd. Os nad yw staff yn defnyddio AberLearn Blackboard ar gyfer marcio a dychwelyd graddau bydd angen trefniadau eraill.