Cwestiynau Cyffredin am E-gyflwyno - Cyflwyno Ar-lein

Noder fod y dudalen hon yn is-adran o'r ddogfen lawn Cwestiynau Cyffredin am E-gyflwyno. Mae’r llawlyfr cyfan hefyd ar gael i’w lawrlwytho: Cwestiynau Cyffredin am E-gyflwyno (PDF).

 

Cyflwyno Ar-lein

A fydd cyflwyno ar-lein yn gymwys i bob modiwl a phob myfyriwr?

Y bwriad yw y bydd cyflwyno ar-lein yn weithredol ar gyfer pob myfyriwr a’r holl asesiadau testun ar fodiwlau o fis Medi 2014. Bydd yr holl waith testun ar brosesydd geiriau gan israddedigion ac uwchraddedigion yn defnyddio’r drefn hon. Bydd cyfle i adrannau wneud cais am eithriadau ar gyfer rhai modiwlau neu elfennau asesu penodol drwy gysylltu â’r Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig neu Uwchraddedig yn eu Sefydliad.

Mae rhai mathau o asesiadau (llyfrau nodiadau, paentiadau, darluniau, cerfluniau, perfformiadau a rhai eitemau ffisegol eraill) yn anaddas i’w cyflwyno ar-lein a chaiff rhai asesiadau eu cyflwyno eisoes drwy feddalwedd arbenigol. Yn y ddau achos caiff proses amgen ei gweithredu gan yr adrannau perthnasol.

Beth fydd yn digwydd gyda thraethodau hir?

Bydd Adrannau/Sefydliadau’n cael penderfynu drostynt eu hunain a fydd myfyrwyr yn cyflwyno eu traethodau hir ar bapur neu’n electronig.

Pa feddalwedd fydd yn cael ei ddefnyddio?

Caiff e-gyflwyno ei wneud drwy AberLearn Blackboard. Bydd staff yn gallu dewis rhwng defnyddio’r offeryn Blackboard Assignment a Turnitin – sy’n gweithredu oddi mewn i AberLearn Blackboard. Bydd pa offeryn a ddefnyddir yn dibynnu ar natur yr aseiniad. Gall y Tîm Blackboard gynghori pa un yw’r mwyaf addas. Gallwch hefyd edrych ar siart cymharu yn http://nexus.aber.ac.uk/xwiki/bin/download/Main/guides+-+Blackboard/esubfeatures2013.pdf. Nodwch y bydd yr offeryn SafeAssign yn cael ei ddileu erbyn diwedd haf 2014

Oes cwestiynau cyffredin ar gael ar gyfer defnyddio Turnitin?

Oes, ceir cyfarwyddiadau a fideos am ddefnyddio Turnitin yma: http://nexus.aber.ac.uk/xwiki/bin/view/Main/turnitin

Ydy hyn yn ddiogel?

Ydy, yn fwy diogel na chopi papur. Mae’r holl waith a gaiff ei gyflwyno i’r offeryn Blackboard Assignment yn cael ei gadw o fewn Blackboard PA a chaiff copi wrth gefn ei wneud ynghyd â deunyddiau eraill. Caiff copi wrth gefn o’r gwaith a gyflwynir i Turnitin ei wneud yn allanol gan Turnitin. Mae’n bosibl hefyd i adrannau/Athrofeydd greu copi digidol wrth gefn o Blackboard. O ran diogelwch data mae’r system yn defnyddio amgryptio SSL ac mae’n cydymffurfio â rheoliadau Safe Harbour yr UE.

Beth am gwestiynau moesegol ynglŷn â chadw gwaith myfyfwyr ‘ar-lein’?

Yn ôl gwefan Turnitin, mae myfyrwyr yn cadw hawlfraint eu gwaith hyd yn oed os caiff ei ddefnyddio gan Turnitin i ganfod achosion o gydweddu testun mewn gwaith arall. Os ceir cydweddu â gwaith myfyriwr  mewn sefydliadau eraill, nid oes modd adnabod y myfyriwr yn bersonol ac nid yw testun y cyflwyniad sy’n cydweddu i’w weld. Mae Llys Rhanbarthol UDA a’r Llys Apêl wedi dyfarnu bod defnydd o Turnitin yn dderbyniol yn gyfreithiol. Gall sefydliadau ddewis peidio â chyflwyno’r gwaith i gronfa ddata Turnitin